Prosiect Chwaraeon Cymunedol
Yn ystod y deunaw mis diwethaf, mae Chwaraeon Cymru wedi cynnal
adolygiad o'i fuddsoddiad mewn chwaraeon cymunedol. Rydym eisiau
creu a gweithredu fframwaith cyflwyno a model gweithredu ar gyfer
chwaraeon yng Nghymru sydd o safon byd ac yn cyflawni'r
canlynol:
- Mynd ati'n rhagweithiol i ymateb i'r amodau economaidd
anodd;
- Adlewyrchu'n sensitif y newidiadau mewn cymdeithas yng
Nghymru;
- Rhagweld newidiadau mawr yn y ffordd y mae gwasanaethau
cyhoeddus yn cael eu cynllunio a'u cyflwyno;
- Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb; ac, yn bwysicach na
dim,
- Yn seiliedig ar ganlyniadau ac yn cyflawni ein hamcan o gael
mwy o bobl i fod yn egnïol drwy gyfrwng chwaraeon yn holl gymunedau
Cymru.
Mae creu fframwaith cyflwyno newydd yn seiliedig ar ganlyniadau
ar gyfer buddsoddiad Chwaraeon Cymru mewn chwaraeon cymunedol yn
cael ei ystyried fel cam mawr ymlaen at greu sector chwaraeon sydd
wedi'i gynllunio a'i gydlynu'n well.
Mae ganddo botensial i fod yn gatalydd i eraill adolygu eu dull
eu hunain o weithio gyda chwaraeon cymunedol. Mae Grŵp y Prosiect
Chwaraeon Cymunedol yn gyfrifol am gyfathrebu'r achos dros newid,
drwy weithio gyda phartneriaid presennol a newydd er mwyn dylanwadu
ar, cynllunio, dylunio a chyflwyno fframwaith cyflwyno newydd o
safon byd ar gyfer Cymru.
Mae'r Prosiect wedi datblygu Achos Busnes amlinellol dros newid,
sy'n caniatáu i Chwaraeon Cymru wneud penderfyniadau buddsoddi am y
Ffordd Ymlaen a Ffafrir erbyn mis Mai 2015. Bydd Cam Dau yn cynnwys
cyfnod o bontio at y fframwaith cyflawni newydd a'i weithredu.
Cliciwch
yma i weld strategaeth y fframwaith, sy'n amlinellu beth rydym
yn gobeithio ei gyflawni.
Briffiau Partneriaid y PChC
Cyffredin Partneriaid y PChC
Cwestiynau
Cyffredin - Ebrill 2015
Cysylltu â Thîm y Prosiect Chwaraeon
Cymunedol
Mae Tîm y PChC wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth dryloyw a
chlir i'n partneriaid a bydd yn datblygu cyfres o Gwestiynau
Cyffredin rheolaidd, parhaus er mwyn ceisio sicrhau cymaint o
ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth â phosib. Felly, os oes gennych chi
gwestiwn penodol am waith a datblygiad y PChC yr hoffech i ni ei
esbonio'n fanylach, anfonwch e-bost i: csp-queries@sportwales.org.uk a
bydd aelod o Dîm y Prosiect yn cysylltu â
chi.
Neu mae posib cael sgwrs anffurfiol â
Graham Williams, Cyfarwyddwr y Prosiect. Os felly, anfonwch e-bost
i: graham.williams@sportwales.org.uk /
02920 338361.