Y Gist Gymunedol
Eisiau £1500 tuag at eich prosiect chwaraeon
cymunedol?
Mae'r Gist Gymunedol yn cynnig grantiau o hyd at £1,500 mewn
unrhyw gyfnod o 12 mis tuag at:
- Sicrhau mwy o gymryd rhan
- Codi safonau
Pwy sy'n cael gwneud cais?
Unrhyw grŵp sydd â chyfrif (Banc, Cymdeithas Adeiladu neu Undeb
Credyd) yn enw ei sefydliad. Mae'n bur debyg y byddwch yn un o'r
canlynol:
- Clwb neu Gymdeithas Chwaraeon
- Clwb Ieuenctid
- Grŵp Cymunedol
Sylwer y bydd rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth bod gan eich
sefydliad gyfrif dilys yn ei enw gyda'ch ffurflen gais, oherwydd
bydd methu gwneud hynny'n gallu arwain at oedi gydag asesu eich
cais.
Pwy na all wneud cais
- Ysgolion cynradd / uwchradd sy'n trefnu gweithgareddau ar gyfer
eu disgyblion
- Aelodau unigol o'r cyhoedd
- Awdurdodau Lleol
- Sefydliadau y mae eu prosiect wedi dechrau eisoes
Hefyd, ni ellir cyllido'r gweithgareddau / elfennau prosiect
canlynol:
- Eitemau personol o offer neu git
- Arlwyo a lletygarwch
- Medalau, tystysgrifau a thlysau
- Teithiau chwaraeon
- Digwyddiadau unigol heb gysylltiadau â gweithgareddau
parhaus
- Costau rhedeg o ddydd i ddydd
- Prosiectau sydd wedi dechrau eisoes
- Prosiectau gyda'r gweithgarwch yn cael ei gynnal y tu allan i
Gymru
- Yswiriant / Ffioedd Cynghrair / Aelodaeth / Gweithgareddau a
bennir fel rhan o fusnes 'craidd' yr ymgeisydd
- Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau
amgylcheddol, dawns perfformiad neu sgiliau syrcas
- Cynnal a chadw, atgyweirio neu newid offer neu gyfleusterau
presennol (fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i newid offer nad yw'n
cydymffurfio bellach â'r ddeddfwriaeth bresennol)
- Aelodaeth
- Prosiectau cyfalaf (prosiectau sy'n cynnwys adeiladu neu brynu
tir)
- Cefnogaeth ariannol i unigolion
Sut mae gwneud cais
Mae'r Gist Gymunedol yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â'r 22
o Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn gwneud cais am grant,
cliciwch ar y botwm "Ymgeisio Ar-lein" ar y dde i gael mynediad i
Borthol Grantiau Chwaraeon Cymru. Yno cewch lenwi ffurflen gais
ar-lein y Gist Gymunedol. Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais, bydd
yn cael ei anfon yn awtomatig ar e-bost i'r Awdurdod Lleol ble
nodwyd gennych fod eich prosiect yn cael ei gynnal, ar y dudalen
'Am y Prosiect' ar y ffurflen gais.
Wrth fynd drwy'r ffurflen gais, os bydd arnoch angen rhagor o
wybodaeth neu arweiniad am adran neu gwestiwn, cliciwch ar y marc
cwestiwn glas agosaf ac fe welwch ragor o wybodaeth.
Wrth gwblhau eich cais, cofiwch sicrhau eich bod yn atodi'r holl
ddogfennau y gofynnir amdanynt, yn enwedig y dystiolaeth o gyfrif
eich sefydliad (cyfrif Banc, Cymdeithas Adeiladu neu Undeb Credyd),
fel nad oes oedi gyda phrosesu eich cais.
Ar ôl cyflwyno eich ffurflen gais, byddwch yn cael gwybodaeth
gyson ar e-bost wrth iddi symud o gam i gam drwy'r broses
ddyfarnu.
Cyn gwneud cais, darllenwch y 3 dogfen "Help" ar ffurf PDF ar y
dde. Byddant yn rhoi syniad i chi o'r wybodaeth sydd ei hangen a
hefyd yn esbonio sut mae ymgeisio am grant gan ddefnyddio Porthol
Grantiau Chwaraeon Cymru.
Rydyn ni wedi datblygu amrywiaeth o fideos 'Sut i' dwyieithog i'ch helpu chi
drwy'r broses ymgeisio. Mae'r rhain ar gael ar sianel YouTube
Chwaraeon Cymru. Os ydych chi'n dal i gael anhawster ar ôl gwylio'r
fideos yma, cofiwch gysylltu â ni.
Yn olaf, i weld a yw eich porwr rhyngrwyd presennol yn un
priodol a'ch bod yn gallu defnyddio ein system Ymgeisio am Grantiau
ar-lein, cliciwch
yma i weld a yw eich porwr yn addas.
Rhagor o help
Os nad ydych yn sicr a yw'r Gist Gymunedol ar eich cyfer chi,
neu os oes arnoch angen unrhyw help gyda llenwi'r ffurflen,
cysylltwch â Thîm Datblygu Chwaraeon eich
Awdurdod Lleol neu eich Cyngor Gwirfoddol Sirol.
NB: Sylwer bod Chwaraeon Cymru yn ddosbarthwr cyllid y Loteri
Genedlaethol.