Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Roedd Prifysgol Fetropolitan Abertawe eisiau gwella
iechyd a lles y 450 o aelodau o staff sydd
ganddi.
Felly gwnaeth y brifysgol gais am grant gan Chwaraeon Cymru a
defnyddiwyd yr arian i drosi rhan o'u ffreutur yn ystafell
ffitrwydd a gym, fel bod y staff yn gallu ymarfer cyn, yn ystod ac
ar ôl gwaith.
Mae'r dosbarthiadau wedi bod yn llwyddiant ysgubol; cymaint
felly fel eu bod angen addasu'r ystafell eto ac maent yn trafod
ehangu pellach gyda Chwaraeon Cymru.
Ond nid dim ond ar y staff mae'r cyfleuster newydd wedi cael
effaith; mae un darlithydd yn defnyddio'r cyfleuster i roi profiad
uniongyrchol i'r myfyrwyr o drefnu a chyflwyno dosbarthiadau
chwaraeon fel rhan o'u cwrs gradd.
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau y mae'r Brifysgol
yn eu cynnal, edrychwch ar y tudalennau priodol yng ngwefan y brifysgol.
Os ydych chi'n meddwl y gallai grant gan Chwaraeon Cymru wneud
gwahaniaeth i'ch cymuned chi, yna beth am wneud cais am
un heddiw.