Cam mawr nesaf Ynys Môn wrth gynnal Gemau’r Ynysoedd

Pan fydd Jorgen Pettersson a'i dîm yn cyrraedd Ynys Môn yn yr hydref, byddant yn chwilio am fwy na lletygarwch yn unig.

Bydd cadeirydd pwyllgor gweithredol Gemau'r Ynysoedd yn archwilio'r lle i weld a yw'n lleoliad addas i 3,000 o gystadleuwyr a 24 o dimau ynysoedd gystadlu yno yn 2025.

Mae'r cais eisoes wedi cael ei wneud i Ynys Môn gynnal y Gemau'r flwyddyn honno, ac mae'r ynys eisoes wedi cael statws cynigydd dewisol.

Ond os yw Cymru eisiau cynnal un o'r digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mwyaf diddorol, yna rhaid i Ynys Môn brofi ei bod hi'n addas o ran lleoliadau, cyfleusterau a llety.

"Prif ddiben yr ymweliad arolygu yw gwneud yn siŵr bod popeth a gynigir neu a sonnir amdano yn y cais, yno go iawn," meddai Pettersson.

"Mae hynny'n cynnwys ymweliadau â safleoedd, cyfarfod â threfnwyr a'r cyhoedd, a gwleidyddion, er mwyn cadarnhau'r gefnogaeth ar gyfer y digwyddiad, a bod y seilwaith - h.y. lleoliadau, trafnidiaeth, cefnogaeth ariannol a llety ar waith.

Mae'r cydlynwyr chwaraeon yn hanfodol i sicrhau bod y cynllunio ar gyfer y chwaraeon go iawn yn ddilys ac yn ddigonol, a bod nifer y swyddogion yn ddigonol."

Mae Gemau'r Ynysoedd yn ddigwyddiad unigryw, yn cynnwys difrifoldeb arddull y Gemau Olympaidd, awyrgylch gŵyl gerddoriaeth, a chartrefoldeb diwrnod chwaraeon ysgol.

Mae dod â phobl ynysoedd at ei gilydd - o Ewrop yn bennaf, ond rhai mwy pellennig hefyd - mewn cystadleuaeth aml-chwaraeon.

Fe wnaeth enwogion adnabyddus ym myd chwaraeon fel y beiciwr, Mark Cavendish (Ynys Manaw) a'r athletwr, Kelly Sotherton (Ynys Wyth) ddechrau cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd.

Ond yr un mor bwysig â'r gweithgarwch corfforol yw rhannu profiad diwylliannol wrth i bobl o ynysoedd o rannau gwahanol o'r byd ddod at ei gilydd mewn un man.

Ble arall - oni bai eu bod nhw o safon Olympaidd - y gallai athletwr o Ynys Môn eistedd gyda rhywun sy'n chwarae pêl foli o Bermuda, a gymnastwr o'r Ynysoedd Faroe, i gael paned o goffi?

Cynhaliwyd y rhifyn diweddaraf yn ystod yr haf hwn yn Gibraltar, a oedd yn llawn cyffro wrth i 24 o dimau gystadlu mewn 14 o chwaraeon gwahanol.

Mewn gwirionedd, un o'r unig brif chwaraeon a oedd ar goll o'r dathliad yn Gibraltar oedd pêl-droed - a dyma ble bu modd i Ynys Môn gamu i'r adwy a phrofi ei gallu.

Gyda nifer annigonol o gaeau i gynnal y pêl-droed yn Gibraltar, cynhaliwyd y cystadlaethau i ddynion a menywod yn Ynys Môn.

Fe wnaeth y gemau ennyn llawer o ddiddordeb wrth i dîm dynion Ynys Môn ennill y fedal aur, ac enillodd y menywod y fedal arian.

Fe wnaeth y ddwy gystadleuaeth arddangos gallu'r ynys i fynd i'r afael â  thorfeydd mawr, logisteg symud timau o safleoedd eu llety i'r lleoliadau, yn ogystal â phrofi fod pobl Ynys Môn yn frwd dros chwaraeon.

Dywedodd rheolwr tîm y merched, Karen Williams: "Roedd cynnal y gystadleuaeth pêl-droed yn llwyddiant enfawr. Daeth y bobl leol allan i gefnogi'r Gemau ac roedd yn wythnos wych.

"Rydym ni'n gwneud cais ar gyfer 2025 ar gyfer y Gemau llawn, felly mae hyn wedi ein rhoi ni mewn safle da.

"Roedd oddeutu 1,000 o bobl yn bresennol ar gyfer y gêm derfynol, ac roedd nifer y mynychwyr yn wych trwy gydol y gystadleuaeth, drwy'r wythnos.

"Daeth pobl i wylio nad oeddent erioed wedi gweld gêm bêl-droed merched o'r blaen. Roedd rhai pobl yn cymryd diwrnodau o wyliau o'r gwaith i ddod i wylio, sy'n rhyfeddol.

"Felly, dwi'n siwr y bydd etifeddiaeth ar gyfer pêl-droed merched, a phêl-droed yn gyffredinol."

Felly, os yw Ynys Môn yn mynd i fod yn rhan o hanes Gemau'r Ynysoedd, pa mor bwysig fydd y Gemau eu hunain fel rhan o hanes yr ynys?

Yn y blynyddoedd i ddod, a fydd budd amlwg yn sgil cynnal y Gemau, sy'n para pythefnos - y term cyffredin a ddefnyddir, 'etifeddiaeth', y mae cynhalwyr pob math o Gemau yn dyheu amdano - neu a fydd tystiolaeth o effaith yn anodd ei gweld.

"Safbwynt cyffredin yr holl Ynysoedd sydd wedi derbyn yr her i gynnal y Gemau yw etifeddiaeth hirhoedlog, a gweddill cyffredinol, yn ariannol ac yn gymdeithasol," dywedodd Pettersson.

"O ran etifeddiaeth, rwy'n golygu lleoliadau diweddaredig a rhai newydd hefyd ar gyfer chwaraeon yn y dyfodol yn Ynys Môn a chydweithredu rhwng y chwaraeon gwahanol.

"Mae'r ynysoedd hynny sydd wedi cynnal Gemau'r Ynysoedd fwy nag unwaith yn brawf bod ein Gemau yn gadael ôl-troed arwyddocaol mewn heriau chwaraeon yn y dyfodol - h.y. trefnu digwyddiadau eraill a hunan-barch cyffredinol wrth gynnal cystadleuaeth ryngwladol.

"Arweiniodd hyn at ymwybyddiaeth gyffredinol yn yr ynysoedd bod chwaraeon yn gwneud gwahaniaeth mewn nifer o ffyrdd - o ran iechyd ac yn gymdeithasol.

"Mae angen ynys gyfan i lwyddo gyda Gemau'r Ynysoedd."