Chwaraeon Cymru yn penodi Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymunedol am y tro cyntaf
Mae Graham Williams, gŵr o Ogledd Cymru, wedi cael ei benodi fel
Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymunedol newydd yn Chwaraeon Cymru.
Bydd Williams yn arwain gwaith y sefydliad gyda chymunedau a
phartneriaid ledled Cymru, gan helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn
cael cyfle i fod yn egnïol a dal ati i fod yn egnïol drwy
chwaraeon.
Gyda thueddiadau cymdeithasol yn newid, datblygiadau mewn
technoleg a llu o gyfleoedd yn cystadlu am sylw'r cyhoedd yng
Nghymru, bydd y rôl yn canolbwyntio ar sicrhau bod chwaraeon yn
cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n gallu bod yn atyniadol
i bawb yng Nghymru.

Mae penodiad Williams yn dilyn proses chwilio, asesu a chyfweld
gynhwysfawr.
Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell:
"Rydyn ni'n cydnabod yr angen am ddeall yn well y
cymhelliant a'r rhwystrau cysylltiedig â chymryd rhan mewn
chwaraeon, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth chwaraeon yn briodol
i anghenion pobl ac yn cael ei darparu mewn ffordd sy'n gwneud
iddyn nhw fod eisiau dal ati i fod yn egnïol.
"Yn Chwaraeon Cymru, mae gennym ni rôl hanfodol i'w
chwarae mewn cefnogi ein partneriaid i alluogi mwy o bobl, beth
bynnag yw eu cefndir a'u hamgylchiadau personol, i fwynhau
manteision bod yn egnïol ac yn fwy
heini.
"Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gyfle
unigryw yng Nghymru i ni gydweithredu'n well i gael Cymru i fod yn
egnïol. Dydi chwaraeon ddim yn gallu gwneud hyn ar ei ben ei hun ac
un elfen allweddol o'r rôl newydd yma fydd sefydlu partneriaethau
effeithiol gyda byd addysg, iechyd a phartneriaid cyflawni eraill,
i uno y tu ôl i'r nod cyffredin yma o gael Cymru i fod yn
egnïol."
Mae Williams, sy'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Chwaraeon Cymunedol yn
Chwaraeon Cymru ar hyn o bryd, yn dod â chyfoeth o brofiad o'r byd
chwaraeon a hamdden i'r rôl, gan gynnwys o'r sector cyhoeddus. Bydd
yn dechrau yn ei swydd ar unwaith.
Dywedodd Graham Williams:
"Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio gyda chydweithwyr a
phartneriaid allanol i alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn
chwaraeon, sy'n rhywbeth rydw i'n teimlo'n gryf iawn
amdano.
"Rydw i'n edrych ymlaen at wrando ar safbwyntiau pobl ar
draws amrywiaeth eang o sectorau ac ym mhob cwr o Gymru, i sicrhau
bod ein gwaith a'n rhaglenni yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r
rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwarareon. Mae'n
hanfodol ein bod ni'n cyflwyno canlyniadau diriaethol sy'n dangos
manteision ac effaith sylweddol chwaraeon yng
Nghymru."