Chwaraeon Cymru yn penodi Pennaeth Datblygu Partneriaethau newydd
Penodwyd Jane Foulkes yn Bennaeth Datblygu Partneriaethau
Chwaraeon Cymru a bydd yn arwain ymagwedd newydd at sicrhau fod
chwaraeon cymunedol yn fwy amrywiol a difyr ac yn hygyrch i
bawb.
Bydd Foulkes, o'r Wyddgrug, yn dechrau ar ei swydd ym mis Mawrth
2018 ac yn cael dyrchafiad o'i swydd fel Uwch Swyddog yn nhîm
chwaraeon cymunedol Chwaraeon Cymru.
Bydd y swydd yn arwain yr ymagwedd chwaraeon cymunedol at
ddatblygu rhwydwaith partneriaid amrywiol ac eang o fewn chwaraeon
a thu hwnt. Bydd edrych ar weithio ar draws y sector cyhoeddus a
phartneriaethau strategol fydd yn helpu i fynd i'r afael â
rhwystrau i gymryd rhan yn elfen allweddol.
Bydd defnyddio dirnadaeth a data i gefnogi sefydliadau i ennyn
diddordeb mwy o bobl i gymryd rhan yn rheolaidd hefyd yn rhan
bwysig o'r gwaith.
"Rwyf wrth fy modd i gymryd y swydd a chefnogi gwaith y
sector," meddai Foulkes.
"Mae llawer o bobl a sefydliadau gyda rôl i'w chwarae i'w
gwneud mor rhwydd ag sydd modd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar y weledigaeth newydd ar gyfer
chwaraeon yng Nghymru yn wirioneddol wedi rhoi safbwynt newydd ar
yr ehangder partneriaethau sydd gennym ar hyn o bryd a'r rhai y
bydd angen i ni eu datblygu yn y dyfodol. Rwy'n gweld hwn fel cyfle
gwych i sicrhau fod chwaraeon yn parhau i chwarae rôl allweddol yn
ein cymdeithas a chael ei gydnabod a'i werthfawrogi ar yr effaith a
gaiff ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol."
Daw Foulkes â chyfoeth o brofiad i'r swydd gan fod wedi
gweithio'n flaenorol fel Rheolwr Datblygu Chwaraeon gyda Chyngor
Sir y Fflint cyn ymuno â Chwaraeon Cymru.
Dywedodd Graham Williams, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â'r
Gymuned:
"Mae gan Jane brofiad neilltuol o gryf o weithio gyda'n
partneriaid a bydd yn awr yn cymryd ymagwedd newydd wrth i ni
gynyddu'r maes hwn o waith.
"Ar gyfer ein partneriaethau presennol rydym eisiau
cydweithio ar ffyrdd cadarnhaol o weithio ar gyfer y dyfodol yn
cynnwys sut y gallwn ddefnyddio dirnadaeth yn fwy effeithlon ar
draws ein holl rwydweithiau.
"Bydd partneriaethau amrywiol cryf hefyd yn helpu chwaraeon
i ennyn diddordeb mwy o bobl a'u cael i fwynhau holl fanteision y
gall chwaraeon eu rhoi."