Cool Cymru a Chwaraeon – cipolwg ar 20 mlynedd ers datganoli

Mae 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i Cerys Matthews ddweud wrth y blaned ei bod yn 'diolch i'r Arglwydd ei bod yn Gymraes' yng Nghwpan Rygbi'r Byd - ac mae'r un faint o amser wedi mynd heibio ers datganoli hefyd.

Efallai nad oedd cysylltiad uniongyrchol rhwng y ddau ddigwyddiad hwnnw yn 1999 - roedd anthem Catatonia, International Velvet, flwyddyn ar y blaen i etholiadau cyntaf Cynulliad Cymru - ond roedd yn sicr yn gyfnod pryd roedd chwaraeon, gwleidyddiaeth a diwylliant yng Nghymru'n dechrau gorgyffwrdd mewn ffordd gwbl newydd.         

O ran chwaraeon yn unig, mae'n anodd barnu gwaddol datganoli. Mae Cymru wedi cynnal sawl digwyddiad a thwrnamaint nodedig yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf ac mae llawer o lwyddiant wedi bod i dimau cenedlaethol ac i unigolion.

Wales crowd

Mae'r cyflawniadau o ran llwyfannu digwyddiadau mawr yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf yn nodedig. Ar ôl cynnal Cwpan Rygbi'r Byd yn 1999 (neu brif gemau'r rownd bwrw mas yn ogystal â'r gemau pŵl), rhoddodd Cymru gartref i ffeinal Cwpan yr FA a Chwpan y Gynghrair tra oedd Stadiwm Wembley yn cael ei ailadeiladu.

Wedyn daeth rowndiau terfynol Cwpan Rygbi Ewrop, Criced Prawf Cyfres y Lludw yn stadiwm Gerddi Sophia wedi'i adnewyddu, Cwpan Ryder 2010 yn y Celtic Manor ar ei newydd wedd, gornestau bocsio teitlau byd, rasys Grand Prix beicio, gemau pêl droed Olympaidd yn 2012, Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop mewn Pêl Droed yn 2017 ac, yn fwy diweddar, gemau Prawf undydd fel rhan o Gwpan Criced y Byd.

Mae'n anodd asesu sut fu i ddatganoli gynorthwyo neu sicrhau unrhyw rai o'r digwyddiadau hyn, ond gellir tybio bod ymdeimlad cadarnach o hunaniaeth genedlaethol, ac o fod yn wahanol i weddill y DU, wedi gwneud Cymru'n haws ei marchnata, y tu hwnt i lun neu ddau o'r ddraig goch, olwyn pwll glo a chôr meibion.                 

Pan ddaeth Real Madrid ac Juventus i Gaerdydd ar gyfer gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn Stadiwm y Principality, amcangyfrifwyd bod yr "hysbysebu cyfatebol" yn werth tua £50m.

Mae Laura McAllister - cyn gadeirydd Chwaraeon Cymru yn ogystal ag athro mewn polisi cyhoeddus a llywodraethu yng Nghanolfan Llywodraethu Cymru Prifysgol Caerdydd - yn credu bod datganoli wedi cael effaith uniongyrchol ar allu Cymru i gynnal digwyddiadau ac i ddylanwadu ar unrhyw fanteision sy'n dilyn oherwydd hynny.

Dywedodd: "Yn y cylchoedd pêl droed, mae Cymru bob amser wedi bod yn annibynnol. Mae'r awdurdod wastad wedi bod yn un o wlad annibynnol, ond pan rydych chi'n mynd â hynny i geisiadau am ddigwyddiadau mawr, mae'r strwythurau'n wahanol iawn nawr.

"O feddwl am y cais am Gynghrair y Pencampwyr - fe wnaed hwnnw'n gyfan gwbl bron drwy Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl Droed Cymru. Yn y gorffennol, pwyllgor o'r adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon fyddai wedi bod yn ceisio rheoli hynny.    

"Efallai na fyddai buddiannau Cymru'n ganolog yn eu hymdrechion. Efallai na fyddai wedi bod o fudd iddyn nhw gael strategaeth seilwaith ar gyfer gwestai a thrafnidiaeth yn gweddu'n well i Gymru. Efallai y bydden nhw wedi edrych arno fel prosiect i Lundain gyda'r gêm yn digwydd bod yng Nghaerdydd. Ni fyddai llawer o atebolrwydd wedi bod chwaith."

Fodd bynnag, mae McAllister yn gweld tystiolaeth wirioneddol o newid ers datganoli yng ngweinyddiaeth chwaraeon, lle mae sefydliadau wedi gorfod addasu i strategaeth â'i ffocws ar Gymru.

"Yn strwythurol, mae datganoli wedi gwneud gwahaniaeth i chwaraeon yng Nghymru yn sicr," ychwanega.

"Roedd amser pan nad oedd gan rai o'r cyrff rheoli ffocws ar Gymru hyd yn oed.  

"Mae'r ffaith bod gennym ni ein senedd ein hunain a'n llywodraeth yn golygu bod gweddill cymdeithas sifig Cymru, gan gynnwys chwaraeon, yn uniaethu â Chymru.

"Yn y gorffennol, efallai y byddai pethau'n digwydd oddi mewn i fframwaith Cymru a Lloegr a neb wir yn siarad am elfen Cymru o hyn.             

"Ond nawr mae'n rhaid i gyrff rheoli ddeall strwythur Cymru oherwydd mae'r cyllid wedi'i ddiffinio'n gliriach yn awr fel cyllid yn dod gan Lywodraeth Cymru."

Ac nid dim ond y chwaraeon unigol a'u cyrff rheoli sydd wedi cael eu gorfodi i addasu mewn Cymru ddatganoledig.

Mae Chwaraeon Cymru, dadleua, wedi cael ei orfodi i esbonio ei amcanion a'i nodau fel eu bod yn cyd-fynd â rhai Llywodraeth Cymru. 

"Rhaid i Chwaraeon Cymru sicrhau bod ei strategaeth yn cyd-fynd ag un y llywodraeth yn fwy cyffredinol. Doedd hynny ddim yn gorfod digwydd yn y gorffennol.

"Pethau fel tlodi plant, cenedlaethau'r dyfodol, targedau cydraddoldeb - mae Chwaraeon Cymru yn gorfod darparu gwybodaeth yn gyson yn awr i'r llywodraeth am y pethau hynny. 

"Boed dda neu ddrwg yn eich barn chi, neu os nad oes gennych chi farn, mae wedi newid y ffordd mae Chwaraeon Cymru yn gweithredu yn sicr."

Ac rwy'n siŵr nad yw effeithiau datganoli wedi cyrraedd eu terfyn mewn cyd-destun chwaraeon.    

Mae McAllister yn siarad am "effaith heintus", lle mae banciau a chymdeithasau adeiladu hyd yn oed yn gorfod cydnabod eu bod yn gweithredu mewn gwlad wahanol gydag awdurdod gwahanol.        

"Mae'r ffaith bod gennym ni senedd a llywodraeth ein hunain wedi dylanwadu ar gymdeithas sifig," meddai.

Felly ble nesaf i chwaraeon yng Nghymru, os bydd y broses o ddatganoli'n parhau ac os bydd cenedlaetholdeb yn parhau i fod yn ddylanwad cynyddol yn wleidyddol?

Dim mwy o UK Sport yn cydio yn llinynnau'r pwrs ar gyfer datblygu athletwyr o safon byd? Dim mwy o deithiau rygbi'r Llewod, dim ond rhai gan Gymru? Dim mwy o Brydain Fawr yn y Gemau Olympaidd, gyda Thîm Cymru yn ei le?   

Mae'r rhain yn ddatblygiadau a allai wneud i ffrae Team GB ynghylch pêl droed yn y Gemau Olympaidd ymddangos yn ddibwys iawn.

Ychwanegodd McAllister: "Gallai ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban roi terfyn ar y cysyniad o Team GB, y mae popeth yn Chwaraeon y DU yn seiliedig arno. Pwy a ŵyr beth fyddai'n digwydd wedyn yng Nghymru a Gogledd Iwerddon?"

Stori gan Dai Sport