Cronfa gwerth £5 miliwn yn cael effaith am y tro cyntaf

Fe hawliodd Cymru'n gwbl briodol ei bod wedi defnyddio Profion pêl rwyd yr haf fel carreg gamu at lwyddiant yn y dyfodol - ond nid dim ond y canlyniadau roddodd hwb ychwanegol iddyn nhw. 

Ar ôl colli dwy gêm yn Ne Affrica, enillodd Cymru bedair gêm ar ôl ei gilydd - yn erbyn Malawi, Trinidad a Tobago, a dwywaith yn erbyn Grenada - ond hefyd fe gawson nhw hwb gan yr arwyneb chwarae.

Cynhaliwyd pedair o'r gemau yn Arena Viola - cartref tîm hoci iâ Devils Caerdydd - lle defnyddiwyd llawr sbring pren symudol newydd am y tro cyntaf.                   

Codwyd yr iâ a gosodwyd y llawr sbring yn ei le fel bod chwaraewyr fel seren saethu Cymru, Georgia Rowe, yn gallu dod o hyd i'w marc.

Netball Court

Mae'r llawr yn gyfres o banelau'n rhyng-gloi dros glipiau lastig, sy'n rhoi'r lefel briodol o hyblygrwydd a'r teimlad meddal sy'n ofynnol ar gyfer gemau pêl rwyd mawr.

Fe'i prynwyd gan Bêl Rwyd Cymru ar ôl help gan Chwaraeon Cymru ar ffurf grant gan y 'Gronfa Lle i Chwaraeon' sydd wedi'i gweinyddu yn ddiweddar.

Yn gyfanswm o £5m, roedd y cyllid yn arian gan Lywodraeth Cymru i helpu chwaraeon i wella ac uwchraddio eu cyfleusterau.            

Dywedodd Brian Davies, cyfarwyddwr perfformiad elitaidd yn Chwaraeon Cymru a chydlynydd y gronfa: "Mae'r llawr yn hanfodol gan ei fod yn gyfle i bêl rwyd o'r safon uchaf gael ei chwarae yn unrhyw le.

"Mae'n gyfle i bêl rwyd Cymru a'r Dreigiau fynd â'r gemau i lefydd heb lawr sbring. Mae hynny'n rhoi hyblygrwydd iddyn nhw a chyfle i hybu'r gêm."

Mae'r llawr yn cael ei gadw ym Met Caerdydd, lleoliad hyfforddi Cymru a'r Dreigiau Celtaidd, unig dîm y wlad yn yr Uwch Gynghrair.

Ond bydd yn galluogi i Gymru barhau i chwarae Profion yn yr arenas mwy ac mae'n cynnig y posibilrwydd i'r Dreigiau ehangu o'u lleoliad presennol yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

Cafodd y gronfa ei throsglwyddo i Chwaraeon Cymru ychydig cyn y Nadolig y llynedd. Mae'n swm cymedrol o arian ac mae croeso mawr iddo ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith chwaraeon, ond mae Davies yn credu ei fod yn gydnabyddiaeth symbolaidd bod uwchraddio ein cyfleusterau chwaraeon yn hanfodol i iechyd y genedl yn y dyfodol.              

"Er bod croeso mawr iddo, dim ond crafu'r wyneb mae'r arian yma. Os ydyn ni eisiau bod yn strategol, rhaid wrth ymrwymiad tymor hwy i fuddsoddiad cyfalaf," meddai Davies.

"O gael hynny, fe allwn ni wneud cynnydd da ledled Cymru. Mae llawer o alw."

Fel cyllid cyfalaf roedd rhaid gwario'r arian yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Trefnodd Chwaraeon Cymru gytundeb lle byddai £1m yn cael ei wario yn ystod ychydig fisoedd, a'r gweddill yn cael ei ymrwymo ar gyfer gwariant cyn mis Mawrth 2020.

Roedd beicio yn un gamp a elwodd ar unwaith drwy adeiladu trac pwmp newydd ar gyfer beicio BMX yn Stadiwm Maendy yng Nghaerdydd, lle dechreuodd y Geraint Thomas ifanc fentro ar ddwy olwyn.         

Derbyniodd GLL (Greenwich Leisure Limited) £15,000 o'r gronfa, sydd wedi galluogi adnewyddu wyneb y trac.            

Dywedodd Hugh Copping, Cadeirydd Clwb Rasio BMX Caerdydd: "Bydd ailddatblygu'r trac pwmp ym Maendy yn ased gwerthfawr i'r gymuned ac yn allweddol i helpu beicwyr i feithrin hyder a sgiliau i feicio ar drac rasio maint llawn.      

"Yng Nghymru, mae poblogrwydd beicio BMX yn tyfu'n gyflym, felly mae gwir angen cyfleusterau."

Mae dyraniadau eraill o'r gronfa wedi galluogi i rygbi a phêl droed osod caeau 3G yn eu lle ac mae hoci wedi cael cymorth tuag at ei arwynebau artiffisial.

Mae athletau a chriced wedi elwa hefyd, ac mae Tennis Cymru'n bwriadu defnyddio arian o'r gronfa i ddatblygu system archebu ar gyfer cyrtiau tennis yr awdurdod lleol a fyddai'n datgloi cyrtiau sy'n defnyddio meddalwedd debyg i'r ddarpariaeth rhannu beiciau cymunedol sydd ar gael yng nghanol dinasoedd.

Cafodd £1m arall ei neilltuo ar gyfer ceisiadau cyhoeddus, yn hytrach na dim ond cyrff rheoli. Denodd hynny werth £15m o geisiadau mewn dim ond saith wythnos - tystiolaeth, pe bai angen hynny, o'r galw ledled Cymru am uwchraddio cyfleusterau chwaraeon.

Roedd clybiau gymnasteg, bowlio a chriced yn rhan amlwg o'r dyraniad wrth i gynigion o arian gael eu gwneud i draean o'r ymgeiswyr o 26 o wahanol gampau ar hyd a lled Cymru (manylion i'w cyhoeddi yn fuan).

Mae £1m terfynol wedi cael ei glustnodi ar gyfer uwchraddio stoc ym mhyllau nofio awdurdodau lleol.

Mae croeso mawr i'r cyfan - ac roedd yn sypreis braf i chwaraeon yng Nghymru ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf - ond mae Davies yn gwybod mai ychydig iawn yw'r arian o gymharu â beth fydd ei angen yn ystod y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod y cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru'n cyrraedd y safon.

"Roedd hwn yn anrheg Nadolig hyfryd," meddai. "Ond byddai'n neis gwybod beth rydyn ni'n ei gael bob Nadolig am ychydig flynyddoedd.

"Fe hoffwn i feddwl bod rhywun yn gwrando arna' i allan yn y byd gwleidyddol. Mae chwaraeon mor bwysig i Gymru o ran cyflawni pob math o amcanion cymdeithasol pwysig. Mae wedi bod yn gam positif iawn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n grêt gweld yr effaith ar y byd chwaraeon a thu hwnt eisoes."