Cwpan y Byd y Digartref yn dod i Gaerdydd – Cipolwg
Bydd twrnamaint pêl droed sy'n ceisio helpu rhai o bobl mwyaf
bregus Cymru a helpu eraill ym mhob cwr o'r byd yn dod i Gaerdydd
yn nes ymlaen y mis yma.
Mae Cwpan y Byd y Digartref - digwyddiad blynyddol sy'n ceisio
trechu a newid barn pobl am ddigartrefedd - yn dechrau ar Orffennaf
27.
Bydd Parc Bute, parc eiconig yn y brifddinas, yn gartref i'r
17eg twrnamaint, ac mae disgwyl i fwy na 500 o chwaraewyr o bob cwr
o'r byd ddod i Gaerdydd.
Roedd y seren Hollywood a aned yng Nghasnewydd a'i fagu ym Mhort
Talbot, Michael Sheen, sy'n enwog am ymgyrchu dros faterion
cymdeithasol, yn gatalydd i ddenu'r digwyddiad saith diwrnod i
Gaerdydd - ac mae'n gobeithio y bydd y twrnamaint yn gallu sefydlu
gwaddol yng Nghymru.

"Mae helpu i ddod â Chwpan y Byd y Digartref i Gymru yr haf
yma'n freuddwyd yn dod yn wir i mi," meddai Sheen.
"Fe fyddwn ni'n croesawu mwy na 500 o chwaraewyr o fwy na 50 o
wledydd ac yn dangos iddyn nhw'r cynhesrwydd a'r ysbryd cymunedol
mae pobl Cymru mor enwog amdano.
"Rydw i eisiau i Gwpan y Byd y Digartref Caerdydd
2019 ymwneud â chreu gwaddol o newid yn seiliedig ar wybodaeth
y rhai sydd ar y rheng flaen o ran y problemau hyn, ac yn cael ei
gyflwyno gan genedl gyfan fel un, mewn ysbryd o gydymdeimlad a
chydweithrediad, rhinweddau sydd wedi bod yn agos at ein calonnau
ni erioed ac sydd wedi ein diffinio ni fel pobl."
Mae Pêl Droed Stryd Cymru [SFW] yn gyfrifol am drefnu timau
dynion a merched Cymru, sef y Welsh Dragons ar gyfer y dynion a'r
Welsh Warriors ar gyfer y merched.
Sylfaenwyd y sefydliad gan Keri Harris, oedd yn gyfrifol am
grwpio tîm ar gyfer y twrnamaint cyntaf yn 2003.
Yn dilyn y digwyddiad cyntaf yn Awstria, sefydlwyd SFW ac mae
Harris yn rheoli'r ddau dîm nawr.
Mae Sheen yn noddwr yr elusen, ac mae seren ryngwladol Cymru,
Loren Dykes, ymhlith ei llysgenhadon.
Mae Dykes, a goronwyd yn ddiweddar fel yr ail chwaraewr i
gyrraedd carreg filltir y 100 cap, yn galw ar bobl Cymru i ddod
allan wrth eu miloedd i gefnogi'r
digwyddiad.
Dywedodd: "Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Phêl Droed Stryd
Cymru ers nifer o flynyddoedd ac wedi gweld yn uniongyrchol yr
effaith y gall bod yn rhan o'r prosiect yma ei chael ar fywyd
unigolyn.
"'Dyw pêl droed stryd ddim yn ddigon ar ei ben ei hun i alluogi
i ni gael gwared ar eithrio cymdeithasol a digartrefedd - ond mae'n
rhan bwysig o ddarlun
mwy.
"Gyda Michael Sheen yn gysylltiedig nawr, a'r sylw gan y
cyfryngau a'r cais llwyddiannus am gynnal Cwpan y Byd y Digartref,
mae'n gyfle i ni godi ymwybyddiaeth o'r prosiect rhagorol a'r bobl
sy'n gweithio'n ddiflino
drosto.
"Ac i ddangos straeon dirdynnol ond ysbrydoledig pobl sydd wedi
bod drwy gyfnodau anodd ac sydd wedi gweithio i newid eu bywydau
gyda chefnogaeth y rhai o'u
cwmpas.
"Gall bod yn rhan o rywbeth sy'n rhoi ystyr i'w bywyd a gwneud
iddyn nhw deimlo eu bod yn perthyn fod yn allweddol i feithrin eu
hyder a'u sgiliau cymdeithasol.
"Y darlun mwy yw y bydd yn codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ac
eithrio cymdeithasol gobeithio - sydd ar gynnydd o hyd yn anffodus.
Gofynnwch i chi'ch hun faint o bobl ddigartref ydych chi'n eu gweld
wrth fynd i'r siop neu i mewn i'r dref. Does dim posib ei osgoi -
mae yno i bawb ei
weld.

"Mae'n amser cynyddu'r buddsoddiad i helpu pobl agored i niwed.
Mae gwaith gwych yn digwydd eisoes ond rhaid i ddigartrefedd gael
mwy o flaenoriaeth i geisio ei
atal.
"Fe hoffwn i annog pawb i gefnogi'r twrnamaint - dydych chi ddim
yn cael cyfle i ddweud bod Cwpan y Byd yng Nghymru yn aml. Ewch i
gefnogi'r bobl ryfeddol yma a bod yn rhan o wneud y profiad unigryw
yma'n fwy arbennig fyth i'r rhai sy'n cymryd rhan."
Dewiswyd Lauren Roper gan sylfaenydd SFW, sef Harris, i
gynrychioli'r Welsh Warriors yn y twrnamaint y llynedd yn Ninas
Mecsico, gan chwarae rhwng y ffyn fel
gôl-geidwad.
Mae ganddi brofiad o ddigartrefedd ar strydoedd Abertawe a
dywedodd bod gwisgo crys Cymru yng Ngogledd America yn gyfle cwbl
unigryw.
"Fe gefais i gyfle i chwarae ym Mecsico y llynedd ac fe roddodd
hyder newydd i mi," meddai Roper. "Fe sylwodd pobl arna' i nid yn
unig fel gôl-geidwad eithaf da, ond fel rhywun oedd yn ymddwyn yn
barchus hefyd.
"Roedd mwy nag un person yn credu 'mod i'n ddigon da i
gynrychioli Cymru - ac i mi roedd hynny'n
anrhydedd.
"Roedd yn gyfle unwaith mewn oes a doeddwn i ddim yn meddwl y
byddwn i'n ddigon da ar ei gyfer byth."
Dywed y ferch 22 oed bod y profiad o chwarae yn y twrnamaint
wedi ei chymell hi i helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg ac mae'n
credu y bydd y digwyddiad yng Nghaerdydd yn helpu i newid y farn am
ddigartrefedd yng
Nghymru.
"Mae wedi bod yn gyfle i mi weld rhan wahanol o'r byd sydd wedi
gwneud i mi fod eisiau teithio. Mae wedi fy helpu i i gyfarfod
ffrindiau a chael rhwydwaith ehangach fyth o gefnogaeth a help.
"Mae wedi gwneud i mi fod eisiau helpu eraill sydd mewn
sefyllfaoedd tebyg i'r rhai rydw i wedi bod ynddyn nhw - a
chyflwyno pêl droed fel cyfrwng i ymdopi.
"Rydw i'n meddwl y bydd y twrnamaint hefyd yn agor llygaid y
rhai sydd wedi bod yn ddigon ffodus i beidio â phrofi digartrefedd,
gan ddangos iddyn nhw nad dim ond cyffuriau a thrais yw'r
achos."
Does dim tocynnau ar gyfer y digwyddiad, mae am ddim, ac mae'r
gemau ar gael i'w gwylio ar sail y cyntaf i'r felin.
Y Welsh Warriors - y cynrychiolwyr benywaidd - sy'n rhoi cychwyn
i'r twrnamaint yn erbyn Groeg am 11am ar Orffennaf 27, a bydd tîm y
dynion yn cychwyn yn erbyn Romania yn fuan wedyn.
Mae pob gêm yn cael ei chwarae ar un allan o dri chae 22m x 16m,
gyda'r gemau'n cynnwys dau hanner saith
munud.
Mae adloniant amrywiol, bwyd stryd a phabell drafod ar gael i'r
gwylwyr hefyd yn ystod y twrnamaint.
Mae James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers, Charlotte
Church, Wigwam a Buzzard ymhlith rhai o'r artistiaid a'r bandiau o
Gymru fydd yn ymddangos yn y
digwyddiad.
https://homelessworldcup.org/