Cyhoeddi heriau'r dyfodol ar gyfer chwaraeon Cymru
Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi glasbrint ar gyfer chwaraeon
yng Nghymru yn dilyn sgwrs genedlaethol bedwar mis. Yn awr cynhelir
ymgynghoriad agored am y chwe wythnos nesaf ar y ddrafft
weledigaeth ar gyfer chwaraeon.
Tynnodd y sgwrs genedlaethol sylw at nifer o faterion, yn
cynnwys rôl ysgolion, cyfleusterau agored a gwell defnydd o
dechnoleg a gofodau awyr agored.
Mae sicrhau nad yw pobl yn colli cyfleoedd oherwydd costau a
rhwystrau eraill hefyd yn hanfodol yn ôl adborth ar ddatblygu
gweledigaeth newydd ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.

Rhwng mis Hydref a mis Ionawr, gwahoddodd Chwaraeon Cymru bobl
ar draws y genedl i ddweud eu barn fel rhan oChwaraeon a Fi -Y
Sgwrs gyda dros 600 cyfraniad hyd yma. Cafodd y sylwadau hyd yma eu
crynhoi mewn adroddiad, ynghyd â'r fersiwn drafft a chyhoeddir y
ddau ar wefan Chwaraeon a Fi.
Nawr mewn cyfnod ymgynghori, mae'r cyfle i sefydliadau ac
unigolion gyfrannu ar agor tan ddiwedd mis Ebrill.
Mae'r adroddiad yn amlygu:
- Pwysigrwydd Addysg ac yn arbennig ysgolion, a chanfyddiad fod
chwaraeon ac addysg gorfforol yn cael llai o bwysigrwydd yn y
cwricwlwm ysgol ffurfiol.
- Cefnogaeth ar gyfer y model hyb cymunedol, lle mae amrywiaeth o
chwaraeon ar gael ar gyfer y gymuned leol.
- Awydd i ddefnyddio technoleg yn well i helpu pobl i gael
gwybodaeth am gyfleoedd chwaraeon yn eu cymuned
- Yr angen i ddileu rhwystrau sy'n atal llawer o bobl rhag cymryd
rhan.
Mewn ymateb, cafodd drafft weledigaeth ei datblygu gyda ffocws
ar Gymru yn'genedl lle mae pawb yn mwynhau chwaraeon gydol
oes'.

Mae'n rhoi pwyslais ar sut y bydd angen i sefydliadau gydweithio
i ddarparu cyfleoedd lleol a chynhwysol, yn ogystal â phrofiadau
croesawgar, hwyliog a gwahanol, yn arbennig ar gyfer rhai nad oes
ganddynt ddiddordeb mewn chwaraeon ar hyn o bryd.
"Drwy'r sgwrs genedlaethol, cawsom lawer iawn o
wybodaeth werthfawr tu hwnt ar ddarlun cyfredol chwaraeon yng
Nghymru a sylwadau ar sut i ateb heriau a cyfleoedd y dyfodol
gyda'n gilydd," meddai Sarah Powell, Prif Weithredwr
Chwaraeon Cymru.
"Mae'n galonogol fod pobl wedi bod mor onest ac
angerddol am yr hyn sydd i ddod. Mae'n amlwg y bydd angen i
chwaraeon barhau i geisio adeiladu cysylltiadau pwrpasol ar bob
lefel a bydd angen i anghenion pobl Cymru gael eu clywed a
gweithredu arnynt.
"Mae'r weledigaeth yn nodi cyrchfan gadarn ar gyfer
Cymru, un lle mae pawb yn mwynhau chwaraeon ac yn byw bywyd egnïol.
Edrychwn ymlaen at dderbyn barn pobl ar y Weledigaeth ar gyfer
Chwaraeon yng Nghymru."
Mae'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru a Chrynodeb o'r
Adborth ar gael yn www.chwaraeon.cymru/chwaraeonafi.
Gellir gwneud sylwadau ar-lein drwy:
- E-bost - feedback@sport.wales
- Ysgrifennu at Chwaraeon Cymru yn Y Sgwrs, Chwaraeon Cymru,
Gerddi Sophia, Caerdydd CF11 9SW
- Ffôn - 0300 300 3119