Dal ati i’r eithaf ar ôl trasiedi

Mae milwr o'r Rhyl a gafodd anafiadau difrifol gan fom yn Afghanistan yn dweud bod dechrau chwarae golff wedi trawsnewid ei fywyd.

Mae'r cyn droedfilwr, Stewart Harris, wedi defnyddio pŵer chwaraeon i'w gynnal yn ystod y cyfnodau tywyllaf.    

Yn aelod o Fataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig, bu Harris yn gwasanaethu am 13 o flynyddoedd, gan gynnwys teithiau i Fosnia, Gogledd Iwerddon, Kosovo, Irac ac Afghanistan.

Yn ystod cyfnod yn Afghanistan yn 2012, yrrodd bom ar ochr y ffordd ei gerbyd i ffos, a chafodd anaf i'w ymennydd o ganlyniad i hynny.

Mae golff - a rhaglen sy'n cael ei gweithredu gan Golff Cymru - yn parhau i helpu Harris gyda'i frwydr yn erbyn Anhwylder Straen Wedi Trawma yn dilyn y digwyddiad saith mlynedd yn ôl.

Stewart Harris

"Mae llawer o gariad at y fyddin yn y gymuned golff," meddai.

"Rydyn ni'n uchel ein parch ac mae golff yn debyg iawn i'r fyddin a bod yn onest. Weithiau rydych chi ar eich pen eich hun ac weithiau rydych chi'n rhan o dîm

"Mae'r clwb fel llety'r fyddin gyda bwrdd snwcer, rhaid gwisgo coler, rhoi eich crys i mewn a defnyddio'r derminoleg briodol gyda phawb. Rydw i'n teimlo'n gartrefol iawn yn y clwb golff .

"Ond roeddwn i'n fwy o chwaraewr rygbi yn yr ysgol uwchradd. Fe wnes i rywfaint o gymnasteg a phêl droed ond wnes i ddim rhagori yn y rheiny.    

"Y cymryd rhan oeddwn i'n ei fwynhau. Roeddwn i'n arfer gwneud llawer o redeg a thraws gwlad, ond heb gyrraedd safon digon uchel i gael fy newis ar gyfer y tîm.  

"Ond doedd dim ots gen i. Pan oedd Wimbledon ymlaen, roedden ni'n arfer cael raced a tharo pêl yn erbyn wal yn rhywle. Doeddwn i ddim yn rhagori, ond mae fy nhad a 'mrawd yn golffwyr da iawn.

"Roeddwn i'n arfer mynd i glwb golff lleol yn y Rhyl yn aml ac yn chwarae o gwmpas tu allan gyda bechgyn eraill. Doedd y gamp ei hun ddim o ddiddordeb i ni gymaint â hynny. Roeddwn i jyst yn meddwl, 'Dydw i ddim yn dda am unrhyw beth arall, felly dydw i'n sicr ddim yn mynd i fod yn dda yn y gamp yna.'"

Ar ôl i Harris ymuno â'r fyddin ddaeth golff yn rhan o'i fywyd - ond mewn ffordd annisgwyl iawn.

"Fe wnes i ymuno â'r fyddin ar ôl yr ysgol uwchradd a mynd ar sawl taith. Yn anffodus, yn Afghanistan, fe gafodd fy ngherbyd i ei daro gan Ddyfais Ffrwydrol Wedi'i Haddasu (IED).

"Roeddwn i yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn gwella o'r anafiadau corfforol oeddwn i wedi'u cael. Doeddwn i ddim yn gwneud yn dda iawn o ran iechyd meddwl, i'r pwynt lle doeddwn i ddim eisiau bod yma dim mwy."

Wedyn fe gafodd y gŵr 34 oed ymweliad gan ddyn nad oedd wedi'i gyfarfod erioed o'r blaen - gan roi cychwyn i'w hoffter o'r gamp.                           

Fe ddaeth i ddeall yn ddiweddarach bod gan y ddau fwy yn gyffredin nag yr oedd wedi'i ragweld i ddechrau.

"Fe gefais i fy rhoi mewn uned iechyd meddwl am ychydig dros bedwar mis. Roeddwn i'n cael gwahanol foddion a sesiynau therapi o bob math.

"Wedyn fe ddaeth y dyn yma i mewn - doedd gen i ddim syniad pwy oedd o. Fe wnes i eistedd mewn grŵp ac fe wnaeth o ddweud, 'oes rywun eisiau dod lawr i'r cwrs golff lleol?' Rydw i'n cofio rhoi fy llaw i fyny a gofyn, 'ydi hynny'n golygu y câi ddod allan o fa'ma?'

"Fe es i i lawr yno, taro peli i bob man, i'r chwith ac i'r dde. Ond erbyn i mi gyrraedd yn ôl i'r uned iechyd meddwl, roeddwn i'n teimlo bod rhyw bwysau mawr wedi codi oddi ar fy ysgwyddau i.

"Fe wnes i anghofio am fy mhroblemau a dim ond canolbwyntio ar y bêl wen fechan wirion yna, ac roedd o help aruthrol.   

"Does dim ots pa gamp ydi hi, pan rydych chi'n chwarae, rygbi cadair olwyn neu fadminton, dydych chi ddim yn meddwl am unrhyw beth arall. Y cyfan rydych chi'n ei wneud ydi canolbwyntio ar y gamp honno.

"Roedd y dyn wedi bod yn filwr yn y Falklands ac roedd yn gwirfoddoli. Roedd yn ddyn arbennig iawn. Fe fyddai'n dod i mewn weithiau ac fe fydden ni'n cael paned ac yn sgwrsio am wahanol bethau ddigwyddodd yn ein gyrfa ni yn y fyddin. Yn y diwedd roedden ni'n chwarae naw twll ac fe gefais i un o'i setiau golff o.

"Hyd heddiw, dydw i heb brynu offer golff! Rydw i wedi cael rhai ail-law bob amser."

Mae Harris yn llysgennad cynhwysol dros Golff Cymru hefyd ac mae ei stori ysbrydoledig yn crisialu'r slogan 'Gêm i Bawb. Yn Unrhyw Le' yn berffaith.

Nod Golff Cymru, sef y corff rheoli cenedlaethol ar gyfer golff amatur yng Nghymru, yw hybu'r gamp fel un i bawb, heb ystyried gallu, oedran na rhyw.                        

Maent yn darparu cystadlaethau a digwyddiadau amrywiol i annog cymryd rhan yn y gamp, gan gynnwys Pencampwriaeth Chwarae Strôc Agored Cymru, sy'n cychwyn ym mis Awst.              

"Mae Golff Cymru wedi bod yn wych ac wedi rhoi popeth i mi," meddai Harris.

"Rydw i'n cael gwahoddiad i naw lle ac yn cael siarad gydag adrannau plant ac adrannau merched. Mae pawb yn dweud ei fod yn ysbrydoledig ond mae rhai o'r plant yn fy ysbrydoli i.

"Rydw i'n cael gweithio gyda'r Gymdeithas Strôc ac mae mor dda pan mae rhywun wedi rhoi'r ffidil yn y to am nad ydyn nhw'n gallu defnyddio eu coes chwith neu eu braich dde ac wedyn maen nhw'n dod lawr i'r maes ymarfer neu'r lawnt bytio ac yn llwyddo. Rydw i'n chwarae golff yn erbyn dynion heb goesau ac maen nhw'n fy nghuro i.           

"Er ei fod yn rhwystredig, dydw i byth yn ddigalon wrth golli mewn golff. O golli yn erbyn rhywun heb goesau, does dim ots gen i - rydw i'n llawn edmygedd.

"Dyna sy'n grêt am golff - mae'n barod i unrhyw un a does dim angen triniaeth arbennig.           

"Does dim ots gan y cwrs golff sut rydych chi'n edrych. Mae jyst eisiau i chi ddod i chwarae arno."