Harrison Walsh – Dychwelyd

PAN mae Harrison Walsh yn rhestru'r anafiadau a gafodd mewn damwain gas wrth chwarae rygbi, mae meddygon profiadol hyd yn oed yn gwingo.

harrison walsh

"Fe wnes i rwygo fy ligament croes blaen (ACL), fy ligament croes ôl (PCL) a fy ligament cyfochrog ochrol (LCL). Ac fe wnes i dorri fy nghyhyr deuben i ffwrdd fwy neu lai," meddai'r gŵr ifanc 23 oed.

"Hefyd fe wnes i dorri fy mhoplitews, pen ochrol y gastrocnemiws a'r nerf peroneal cyffredin. Does gen i ddim teimlad yn fy nhroed dde a dweud y gwir - yn enwedig ar y top lle does dim symudiad. 

"Mae'n un o'r anafiadau gwaethaf allwch chi eu cael i'r ben-glin a bob tro wy'n gweld ffysio maen nhw'n gwingo pan wy'n dweud wrthyn nhw am raddfa'r niwed."

Yr eironi yw nad oedd Walsh, prop pen rhydd gyda'r Gweilch, i fod i chwarae yn y gêm ym mis Ionawr 2015 pan gafodd yr anafiadau mewn tacl a fyddai'n rhoi diwedd ar ei freuddwyd o chwarae rygbi dros Gymru a'i roi ar lwybr chwaraeon gwahanol.

Roedd i fod i chwarae dros Gymru D20 yn erbyn Lloegr yr wythnos ganlynol ac roedd i fod i gael y penwythnos i ffwrdd, ond atebodd alwad gan Glwb Rygbi Abertawe i chwarae iddyn nhw. Dechreuodd ar y fainc ond daeth ymlaen pan gafodd aelod o'r tîm gerdyn coch ac Abertawe'n ennill yn braf. 

"Roedden ni yn chwarae olaf y gêm," ychwanegodd Walsh, sydd wedi'i eni yn y Mwmbwls ac yn gyn ddisgybl yn Ysgol Bishop Gore. "Roeddwn i'n cario'r bêl ac wrth i mi redeg dros rywun, fe aeth o dan fy nghoes i. Roedd yn anaf gwirion a doedd dim allai unrhyw un wneud amdano. 'Sa i'n chwerw am y peth o gwbl.

"Rygbi oedd fy nghariad cyntaf i a phe bai raid i mi wneud y cyfan eto a chael yr holl brofiadau, fe fyddwn i'n gwneud hynny. Gobeithio y bydd posib iddyn nhw wneud fy nghoes i'n well ryw bryd, ond, yn anffodus, nid yw hynny'n gallu digwydd ar hyn o bryd."

Treuliodd Walsh, sy'n gwisgo esgid velcro i helpu gyda'i gydbwysedd ar ôl mynd drwy faglau'n gyflym iawn, ddwy flynedd yn ceisio ailadeiladu ei goes dde a'i yrfa yn y byd rygbi.    

Cadwodd mewn cysylltiad agos â'r gamp roedd yn ei charu ac, wrth iddo hyfforddi tîm iau y Gweilch yr awgrymodd David Jones, hyfforddwr arall a rheolwr Chwaraeon ac Iechyd gyda'r awdurdod lleol, ei fod yn rhoi cynnig ar Bara Athletau.

"Dyna pam 'sa i'n chwerw oherwydd roeddwn i'n gwybod 'mod i wedi gwneud popeth allwn i i ddod yn ôl," ychwanegodd Walsh, sydd, fel cyn brop, â chryfder a chorffolaeth naturiol i newid i gystadlaethau taflu. "Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud dim mwy.

"Rydw i wedi cael popeth oedd arna' i angen, y meddygon gorau, yr arbenigwyr gorau i edrych arni. Maen nhw wedi gweithio'n ddiflino i geisio efelychu'r nerf, yn anffodus, does dim ots pa mor galed wnewch chi weithio ar nerf, os nad yw eisiau dod yn ôl, wnaiff e ddim.                

"'Dyw beth ddigwyddodd i mi ddim y peth neisiaf i ddigwydd ond mae pethau llawer gwaeth yn gallu digwydd yn eich bywyd chi.

"Roeddwn i'n hyfforddi'r criw D16 yn y Gweilch ac fe ofynnodd rhywun i mi oeddwn i'n gallu cael Bathodyn Glas. Doeddwn i ddim yn gwybod am nad oeddwn i wedi gofyn erioed."

"Doeddwn i ddim yn ystyried fy hun yn anabl. Roeddwn i wedi bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol. Hyd heddiw, 'sa i'n gweld fy hun yn anabl, er fy mod i, yn dechnegol. 

"Fe es i i'r sesiwn athletau a rhoi cynnig arni ac fe ddechreuodd y cyfan o'r fan honno. Fi'n fachan mawr ac fe wnaethon nhw weld hynny ac roedd ganddyn nhw ddiddordeb yn fy hyfforddi i."

Ychwanegodd Walsh, sydd yn y categori F44 ond yn cystadlu hefyd yn y cyfarfodydd i bobl abl: "Fe wnes i ddechrau taflu ac roeddwn i'n cael hwyl. Ond 'sa i'n agos at ble wy'n mynd i fod.                  

"Mae'n gamp wahanol iawn o ran cryfder. Y broses o ddysgu rhywbeth mewn chwaraeon eto oedd yn fy nifyrru, y math 'na o fwynhad o fod yn well mewn rhywbeth a dod i ddeall pethau eto, fel wnes i wrth chwarae rygbi.

"Mae'r rheng flaen mewn rygbi'n statig iawn ac mae'n rhaid i chi fod yn gryf iawn, ond 'dyw e ddim yn ddeinamig fel taflu.

"Mae wedi cymryd llawer o amser i mi gael y pŵer deinamig. Dyna'r darn anodd, ond mae'n dod. Mae'n rhaid i chi fod yn athletwr cyn bod yn gryf. 'Sa i'n credu 'mod i'n sylweddoli pa mor bwysig yw hynny."

Mae Walsh newydd fod mewn gwersyll hyfforddi ym Mhortiwgal wedi'i drefnu gan Athletau Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru ochr yn ochr â phencampwr Para-Olympaidd Pen-y-bont ar Ogwr, Aled Davies, a thalent ifanc y byd taflu yng Nghymru, James Tomlinson.

Mae ganddo gymaint o botensial fel ei fod hefyd ar lwybr Para Athletau Prydain sy'n targedu athletwyr a allai herio am fedalau mewn Pencampwriaethau Byd a Gemau Paralympaidd yn y dyfodol.

"'Wy'n ifanc iawn yn y gamp a dydych chi ddim wir yn cyrraedd y lefel uchaf nes bod yn 28 neu 29 oed," ychwanegodd Walsh, sydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd nawr.      

"Ar hyn o bryd rydw i jyst moyn gwneud yn siŵr fy mod i'n gwella fel taflwr, fel athletwr ac fel person yn y gamp 'ma.

"Ond mae Pencampwriaethau Byd ar ddiwedd y flwyddyn yn Doha ac fe fyddwn i wrth fy modd yn profi hynny.

"Wy'n ffodus bod cystal trefn yn Chwaraeon Anabledd Cymru ac Athletau Cymru. Does dim llawer o wledydd sydd â gallu a chyllid i'ch anfon chi i wersylloedd hyfforddi.

"Paris 2024 yw'r nod mwyaf i mi o ran taw dyna ble fyddwn i'n edrych ar gystadlu o ddifrif, ond bydai Tokyo'n wych i ymweld ag ef.     

"Mae Gemau Cymanwlad Birmingham 2022 yn nod arall a chystadlu dros Gymru.

"Roeddwn i'n ddigon ffodus i chwarae dan 16 a dan 18 dros Gymru a dyna beth mae pob plentyn eisiau ei wneud, mewn rygbi, pêl droed neu unrhyw beth.

"Wrth wisgo'r tair pluen yna ar eich brest, rydych chi'n teimlo pwysau'r wlad ar eich ysgwyddau chi, ond mewn ffordd dda. Mae nhw i gyd tu cefen i chi.                       

"Rydw i'n dal i gael croen gŵydd yn siarad am y peth."