Kyra yn Cyfeirio at Ddyfodol y Dreigiau wrth iddi Ymddeol

Mae Kyra Jones yn credu y bydd tymor 2019 yn drobwynt i'r Dreigiau Celtaidd, ond mae'n cyfaddef gyda rhwystredigaeth y gallai fod wedi bod yn well fyth.

Daeth yr unig dîm sydd gan Gymru yn Uwch Gynghrair Bêl Rwyd Vitality, y Dreigiau, yn seithfed yn y tabl 10 tîm, safle sy'n swnio'n eithaf isel ond rhaid edrych arno yng nghyd-destun yr hyn a fu'n flaenorol. 

Yn 2018, gorffennodd y Dreigiau ar y gwaelod. Y flwyddyn cyn hynny, 2017, roedden nhw'n olaf eto, ac yn 2016 roedden nhw agosaf at y gwaelod yn y strwythur wyth tîm.

A dweud y gwir, fe allech chi ddadlau eu bod wedi gwella dair gwaith eleni. Yn ystod y tri thymor blaenorol, dim ond dwy gêm enillodd y tîm o Gaerdydd yn yr ymgyrch, ond cafodd chwe buddugoliaeth eleni.           

Kyra Jones

Esgus i neidio i fyny ac i lawr a churo drwm mawr i rai, ond i Jones - perffeithydd wrth reddf - roedd elfennau o "pe bai" ac "oni bai am. . ."

Mae'r fenyw sydd wedi chwarae'n rhyngwladol dros Gymru - feteran gyda mwy na 50 o gapiau - yn credu bod camau mawr ymlaen wedi'u cymryd, ond bod y ffordd ymlaen wedi agor ar gyfer mwy nag a gafwyd.

"Roedd yn dymor gwell, gyda gwell perfformiadau, ac roedden ni'n llawer mwy cystadleuol," meddai canolwr y Dreigiau.

"Fe wnaethon ni dreblu nifer y buddugoliaethau o ddwy i chwech, oedd yn grêt. Roedden ni yn y safle uchaf ers pedair blynedd. Roedd gennym ni nod (chwech uchaf), ond yn anffodus roedden ni safle i ffwrdd.

"Ond fel chwaraewr, rydych chi eisiau mwy. Roedd pethau y bydden ni wedi gallu eu gwella ac mae'r nod am fwy o hyd. Er ein bod ni wedi cael tymor positif, fe wnaethon ni siomi ein hunain mewn gêm neu ddwy. Roedd gemau y dylen ni fod wedi'u hennill ond wnaethon ni ddim."

Mewn sawl ffordd, roedd y tymor wedi'i sefydlu fel un lle'r oedd y Dreigiau'n siŵr o fod yn mynd i gyfeiriad gwahanol, ar i fyny fwy na thebyg. 

Penodwyd hyfforddwr newydd yr haf diwethaf, sef Tania Hoffman, menyw hynod brofiadol o Seland Newydd gydag enw da, oedd yn awgrymu na fyddai bod tua gwaelod y tabl yn cael ei ystyried yn dderbyniol.          

Hefyd, yn arwyddocaol, roedd Hoffman yn canolbwyntio ar y Dreigiau yn unig- heb ddyblu i weithio gyda Chymru fel ei rhagflaenwyr. Daeth newid pwyslais gyda hynny, gan olygu nad oedd y Dreigiau'n cael eu hystyried fel cyfrwng yn bennaf i ddatblygu chwaraewyr rhyngwladol Cymru, ond fel tîm yn dyheu am herio goreuon y DU.              

Daeth chwaraewyr newydd o dramor i mewn, fel y gôl-geidwad o Jamaica, Stacian Facey, a gwelwyd yr ymosodwr o Drinidad a Tobago, Kalifa McCollin, yn dychwelyd. Gyda chwaraewyr o Fiji a Lloegr yn y sgwad hefyd, roedd gan y Dreigiau fwy o allu i amrywio eu dull chwarae.                 

"Roedden ni'n dîm newydd sbon, mewn gwirionedd," ychwanegodd Jones, sydd o Awstralia ei hun, gan ymuno â'r Dreigiau 10 mlynedd yn ôl cyn cymhwyso i chwarae dros Gymru oherwydd ei phreswyliaeth yma.

"Yr unig chwaraewyr oedd wir wedi chwarae o'r blaen oedd y pedair ar ganol y cwrt - Suzy (Drane), Nia (Jones), fi a Beth (Dyke).

"Efallai bod rhai o chwaraewyr Cymru wedi colli cyfleoedd a chontractau i chwarae. Ond dod yn fasnachfraint annibynnol oedd y peth gorau y gallen nhw fod wedi'i wneud.

"Mae cael Tania yn llawn amser wedi bod yn llawer gwell hefyd. Mae ganddi hi weledigaeth ac fe wnaethon ni ddangos cip o hynny ar adegau. Roedd wynebau newydd a syniadau newydd ac roedd ei chefndir hi'n wahanol. 

"Roedd gennym ni ferched o Fiji, Trinidad a Tobago, Jamaica, Lloegr, Cymru, ac roedd y gymysgedd yn dod â rhywbeth gwahanol.

"Roedd gennych chi hyder y Jamaicans, dawn y Trinidadiaid, a phenderfyniad a dyhead y Fijiaid . . . roedd rhoi hynny i gyd at ei gilydd yn creu cyfuniad pwerus".

Y canlyniad oedd buddugoliaethau cynnar nodedig yn erbyn London Pulse a Strathclyde Sirens, cyn eu curo nhw mewn gemau cyfatebol yn ogystal â dwbl arall yn erbyn Surrey Storm.

Hefyd roedd y perfformiadau yn erbyn grymoedd mawr yr Uwch Gynghrair - carfannau fel Team Bath, Manchester Thunder a'r Wasps - yn fwy calonogol ac yn awgrymu bod y bwlch yn cau efallai.

Yn fwy na dim, meddai Jones, nid oedd gweddill y byd pêl rwyd yn gweld y Dreigiau fel tîm hawdd bellach, tîm yr oeddech chi'n siŵr o gael pwyntiau yn eu herbyn.

"Rydw i'n meddwl ein bod ni wedi rhoi'r Dreigiau Celtaidd yn ôl ar y map. Dydyn ni ddim yn dîm ticio bocs erbyn hyn.

"Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, roedden ni wedi datblygu i fod yn hynny, tîm ticio bocs. Wrth ddweud hynny, rydw i'n golygu y byddai timau'n edrych ar y gemau ac yn ticio'r bocs ac yn dweud, 'ie, fe wnawn ni ennill y gêm 'na'.

"Eleni - ar wahân i dair neu bedair gêm - doedden ni ddim yn dîm ticio bocs mwyach.

"Roedd rhaid i bobl ein cymryd ni o ddifrif eto a gwneud eu gwaith cartref. Roedd gwybod nad oedd timau eraill yn gallu ein cymryd ni'n ganiataol yn deimlad da iawn. Dyna un rheswm pam wnes i ailymuno."

Ond ni fydd yn ailymuno eleni. Yn 33 oed, mae un o chwaraewyr mwyaf dylanwadol y Dreigiau'n rhoi'r gorau iddi wrth iddi dderbyn realiti meddygol anaf i'w ffêr.

Mae Jones dal yn sgwad estynedig Cymru ar gyfer y gemau rhyngwladol sydd i ddod yn erbyn De Affrica, Malawi a Thrinidad a Tobago ond, ar ôl hynny, mae'n ffarwelio.

Ond, yn nodweddiadol iawn, dydi hi ddim yn gadael heb frwydr - yn llythrennol, yn ei hachos hi.

Ar Fehefin 14, mae'n cymryd rhan mewn noson focsio coler wen yng Ngwesty'r Vale of Glamorgan, ac mae'n ymarfer yn galed ar gyfer y noson ar hyn o bryd. 

"Roeddwn i angen rhywbeth i fy nghadw i'n brysur rhwng y Dreigiau'n gorffen a dechrau ymarfer ar gyfer Cymru.

"Rydw i wedi dysgu beth i beidio'i wneud eisoes - sef sefyll yn llonydd pan rydych chi'n cael eich taro yn eich wyneb! "

Nod y noson focsio yw codi arian i elusen a dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi fynd i'w thudalen Just Giving.

https://www.justgiving.com/fundraising/kyra-jones1