Marathon Llundain 2019

Mae llwybr Marathon Llundain Virgin Money yn un hir a heriol yn sicr, ond mae'r siwrnai i gyrraedd y llinell ddechrau fel rhedwr elitaidd yn anfesuradwy wrth gymharu. 

London -marathon -2294025_960_720

Bydd pedwar athletwr o Gymru'n sefyll ar y llinell honno ochr yn ochr â hufen rhedeg pellter y byd ar ddechrau'r digwyddiad eleni ddydd Sul, Ebrill 28.

Yn ymuno â Harriers Abertawe, Dewi Griffiths a Josh Griffiths, yn y cae elitaidd mae Andy Davies o Glwb Athletau Stockport a Natasha Cockram o Dîm Rasio Mickey Morris.

Byddant ysgwydd wrth ysgwydd yn llythrennol ar y llinell gychwyn â phobl fel deiliad record marathon y byd Eliud Kipchoge, y pencampwr byd ac enillydd medal aur Olympaidd Syr Mo Farah, a deiliad record marathon y byd i ferched yn unig Mary Keitany.

Mae pob un o athletwyr Cymru wedi dilyn llwybr gwahanol i gyrraedd yr un nod yn y pen draw. 

Ond am bob un o'u straeon, bydd dwsinau o redwyr eraill o Gymru, o  bob gallu, yn rhedeg ar hyd y strydoedd fore Sul gyda'u nodau personol hwy wedi'u gosod. 

Lonciwr brwdfrydig sy'n gobeithio gwella ei ffitrwydd, codwr arian i elusen, neu athletwr clwb talentog - bydd pob un wedi cael eu hysbrydoli i estyn am eu hesgidiau ymarfer am resymau gwahanol, ac ymuno â'r nifer cynyddol o bobl sy'n mwynhau'r chwyldro rhedeg sydd wedi gafael ledled Cymru.

Er hynny, i'r athletwyr elitaidd, eu huchelgais fydd cyrraedd y llinell derfyn ar y Mall yn yr amser cyflymaf posib. 

London Marathon

Yn ogystal â pherfformiadau gorau personol, mae teitlau Pencampwriaethau Marathon Cymreig a Phrydeinig yn y fantol, ynghyd â dewis ar gyfer Pencampwriaethau Athletau'r Byd eleni a Gemau Olympaidd Tokyo y flwyddyn nesaf. 

Y rhedwr cyflymaf o Gymru ar bapur yw Dewi Griffiths o Lanfynydd. Dechreuodd ei siwrnai ef fel bachgen ifanc pan oedd ei rieni'n dweud wrtho am "fynd i redeg rownd y cae" i'w gadw'n brysur tra oeddent hwy'n gweithio ar y fferm deuluol.

Taniodd y rhedeg hwnnw hoffter at y gamp a dechreuodd gystadlu mewn rasys hwyl yn bump oed. Wrth gystadlu am y tro cyntaf mewn marathon yn Frankfurt, rhedodd y Cymro sydd wedi bod yn Bencampwr Traws Gwlad Cymru saith gwaith ac sydd wedi cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, mewn amser hynod nodedig o 2:09,49.

Aeth llwybr Natasha Cockram at lwyddiant ym myd y marathon â hi i goleg yn yr Unol Daleithiau, lle cafodd anaf i'w phen-glin wnaeth fygwth ei gyrfa.

Ar ôl cael llawdriniaeth lwyddiannus a dychwelyd adref i Went, mae Cockram yn cyfuno swydd lawn amser fel gwas sifil gyda gyrfa athletau a'i gwelodd yn ffrwydro ar y llwyfan rhyngwladol y llynedd gan ennill Hanner Marathon Casnewydd.   

Nid yw rhedeg strydoedd y brifddinas yn brofiad dieithr i Andy Davies, ar ôl cynrychioli Prydain Fawr yn y marathon ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd 2017 yn Llundain.

Dechreuodd y darlithydd yng Ngholeg y Drenewydd redeg er mwyn cadw'n heini wrth chwarae pêl droed i'r tîm yng Nghynghrair Cymru, Caersws, lle enillodd dair Gwpan Cynghrair Cymru a chwarae yn Ewrop.

Ers hynny, mae hefyd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ac mae'n rhedwr mynydd rhyngwladol dros Brydain Fawr. Mae'n ymarfer ym mryniau canolbarth Cymru yng nghwmni ei ddaeargi, Scrappy.

Ymunodd Josh Griffiths â Davies ym Mhencampwriaethau'r Byd. Hawliodd Josh ei le drwy synnu'r byd athletau wrth redeg fel un o'r llu o redwyr clwb ym Marathon Llundain Virgin Money 2017 a gorffen fel y Prydeiniwr cyntaf. 

Roedd perfformiad yr Harrier o Abertawe'n gymaint o syndod fel bod hyd yn oed sylwebydd athletau'r BBC, Steve Cram, wedi gorfod chwilio'n wyllt am fanylion y Cymro wrth iddo ddod i'r golwg ar y Mall.

Meddai Griffiths: "Roedd 2017 yn ras wych ac fe wnes i elwa llawer ohoni, ond mae 2019 yn flwyddyn newydd ac mae gen i amcanion newydd. Mae'n amser symud ymlaen oddi wrth 2017 a rhedeg yn dda yn Llundain eto.

"Bydd cystadleuaeth frwd am lefydd ym Mhencampwriaethau Cymru, ac wedyn mae gennych chi Bencampwriaethau Prydain gyda chae gwych, felly mae wir yn cŵl bod yn rhan ohono. 

"Wrth gwrs, Marathon Llundain yw'r ras, ond mae llawer o rasys llai o fewn y ras. Mae gennych chi'r dynion yn y ffrynt, mae gennych chi Bencampwriaethau Cymru, Pencampwriaethau Prydain ... mae llawer o fân frwydrau'n digwydd drwy gydol y ras, felly fe ddylai fod yn ddiwrnod da."

Dechreuodd Griffiths o Sir Gaerfyrddin ar ei siwrnai redeg ar ôl gwylio un o gewri Ethiopia, Kenenisa Bekele, yn cipio aur dwbl yn y 5,000m a'r 10,000m yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008.

O ganlyniad, ymunodd y bachgen 14 oed bryd hynny â'i glwb athletau lleol - Harriers Caerfyrddin - a naw mlynedd yn ddiweddarach roedd yn eistedd ochr yn ochr â'r un a fu'n ysbrydoliaeth iddo, Bekele, yn y cinio gala ar ôl Marathon Llundain.

Union flwyddyn i'r diwrnod cyn cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd, roedd Griffiths yn rhedeg parkrun Bae Abertawe ochr yn ochr â rhedwyr clwb, loncwyr brwdfrydig, teuluoedd a cherddwyr, a rhai'n herio'r 5k am y tro cyntaf.

Os bu esiampl berffaith erioed o ba mor gynhwysol mae rhedeg pellter yn gallu bod, stori Griffiths yw honno yn sicr.     

Hefyd roedd y Mall yn 2017 yn dyst i un o eiliadau mwyaf eiconig Marathon Llundain wrth i gyfaill Griffiths yng nghlwb Harriers Abertawe, Matthew Rees, stopio i helpu cyd-redwr mewn anhawster, David Wyeth, er bod amser gorau personol o fewn cyrraedd iddo.

Roedd y weithred yma'n batrwm o ysbryd a brawdgarwch rhedwyr o bob gallu a hawliodd y penawdau newyddion ym mhob cwr o'r byd. 

Ond efallai mai'r llwyddiant mwyaf mae Cymru wedi'i brofi yn Llundain yw buddugoliaeth Steve Jones yn 1985.

Hawliodd y rhedwr a aned yng Nglynebwy goron Llundain ar ôl gosod record byd newydd yn y marathon yn Chicago y flwyddyn flaenorol.

Roedd buddugoliaeth bellach yn 1985 hefyd, pan enillodd y diweddar Chris Hallam y ras cadair olwyn a gosod record ar gyfer y cwrs, cyn ailadrodd y gamp ddwy flynedd yn ddiweddarach.    

Hallam oedd yr ysbrydoliaeth i baralympiad gorau Cymru erioed, y Fonesig Tanni Grey Thompson, a aeth ymlaen i ennill Marathon Llundain chwe gwaith, sy'n hynod nodedig.

Gyda miloedd o redwyr newydd yn cymryd rhan mewn mentrau o'r Soffa i 5k a parkruns lleol bob wythnos, pwy a ŵyr o ble fydd y genhedlaeth nesaf o athletwyr o Gymru'n dod ac i ble fydd eu siwrnai rhedeg yn eu harwain?