Mae'r Dr Mikel Mellick, Seicolegydd o Brifysgol
Metropolitan Caerdydd, yn cydweithio ag arweinyddion o fewn
Chwaraeon Cymru, y corff chwaraeon cenedlaethol, i gynyddu
ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ym maes chwaraeon. Mae Dr
Mellick, arbenigwr ym maes cymorth iechyd meddwl athletwyr ym Met
Caerdydd, wedi cychwyn cyflenwi rhaglen hyfforddiant cymorth cyntaf
iechyd meddwl, sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac wedi ei
drwyddedu yng Nghymru. Dechreuodd yr hyfforddiang ym mis Tachwedd
2018 ac yn parhau i'w gynnig i staff ar draws Chwaraeon Cymru a
cyrff llywodraethol cenedlaethol yng Nghymru dros y deuddeg mis
nesaf.
Bydd y cwrs hyfforddi deuddydd fydd yn rhoi'r sgiliau i
unigolion i gynorthwyo athletwyr, hyfforddwyr a staff cefnogi yn
well drwy gyfnodau heriol ac i adnabod, rheoli a chynorthwyo â
phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl broffesiynol maes
chwaraeon.
Bydd y rhaglen yn cael ei cael ei ledaenu i Gyfarwyddwyr
Perfformiad, hyfforddwyr, ymarferwyr gwyddor a meddyginiaeth ar
draws chwaraeon yng Nghymru dros gyfnod o ddeuddeg mis, gyda'r
bwriad o gynyddu llythrennedd iechyd meddwl ymhlith arweinwyr
chwaraeon yng Nghymru.
Yn ôl yr Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Meddwl Athletwyr, Dr Mikel
Mellick: "Rydyn ni'n hynod falch o fod yn gweithio mewn
partneriaeth â Chwaraeon Cymru i gyflenwi hyfforddiant iechyd
meddwl i arweinyddion chwaraeon ar hyd a lled y sefydliad. Mae'n
eithriadol bwysig ein bod yn cynyddu'r ddealltwriaeth am faterion
iechyd meddwl ym maes chwaraeon elit ac yn cefnogi'r rhai
proffesiynol o fewn y diwydiant i helpu unigolion yn fwy hyderus
pan fyddan nhw mewn argyfwng a'u cyfeirio at y gwasanaethau cymorth
mwyaf addas.
"Mae dynion a menywod ym maes chwaraeon proffesiynol dan bwysau
unigryw - sy'n ymestyn o ymdrechu i lwyddo hyd at rwystrau ac
anafiadau, bod dan chwyddwydr y cyfryngau a darparu ar gyfer
ymddeol. Drwy helpu'r hyfforddwyr a chyfarwyddwyr perfformiad i
ddeall yn well beth ydy arwyddion cynnar yr hyn sy'n sbarduno ac i
adnabod arwyddion cynnar y gofidiau hyn, rydyn ni'n cychwyn ar y
broses o adeiladu rhwydwaith gymorth gadarnach a chynharach o
gwmpas ein hathletwyr."
"Mae arweinwyr a hyfforddwyr ym maes chwaraeon elit angen
dealltwriaeth o lesiant iechyd meddwl sy'n cydnabod bod gweithwyr
proffesiynol chwaraeon yn cael cyfnodau o anawsterau iechyd meddwl.
Ers ei lansio, rydyn ni wedi derbyn adborth ardderchog gan
gyfranogwyr sydd wedi llwyddo i gyflawni'r rhaglen eisoes gyda
llawer yn tystio fel roedd eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o
iechyd meddwl wedi golygu bod cymorth a chyfeirio wedi ei gynnig
ynghynt."
Yn ôl Felicity Hares, sy'n arwain Gweithlu Strategol Chwaraeon
Cymru: "Mae cymorth cyntaf iechyd meddwl yn gyfwerth â
chymorth cyntaf corfforol ac y mae cymdeithas yn dechrau cydnabod
hyn. Mae cydweithio â phartneriaid fel Prifysgol Metropolitan
Caerdydd i danlinellu pwysigrwydd delio â iechyd meddwl ym maes
chwaraeon yn flaenoriaeth allweddol i ni gyd."
"Rydyn ni'n cymell pawb proffesiynol sy'n gweithio ym maes
chwaraeon i ddefnyddio dull hir-dymor a holistaidd o fynd ati i
ddatblygu athletwyr ac yn aml mae angen dull amgen o fynd ati i
weithredu hyn. Mae'r rhaglen hyfforddiant hon o gryn werth i'n
staff ac i'r gymuned chwaraeon ehangach ac edrychwn ymlaen i
gydweithio ag arbenigwyr iechyd meddwl ym Met Caerdydd ar fentrau
yn y dyfodol.
Dywedodd Yr Athro Leigh Robinson, Dirprwy Is Ganghellor a Deon
Gweithredol Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Met Caerdydd ac
aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru: "Dyma enghraifft wych o ddull
cydweithredol o fynd ati i sicrhau gwell iechyd a lesiant i'r rhai
sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. Mae cydweithio â
phartneriaid fel Chwaraeon Cymru, er mwyn gwneud gwahaniaeth i
lesiant ym mywydau a chymunedau yng Nghymru, yn flaenoriaeth
strategol i Brifysgol Met Caerdydd a Chwaraeon Cymru fel ei
gilydd."