O’r Ystafell Ddosbarth i Tokyo – y jyglo diddiwedd i gyrraedd y Gemau Olympaidd

Mae Leah Wilkinson yn paratoi i fod yn athletwraig lawn amser er mwyn gwireddu ei breuddwyd Olympaidd.

Mae capten hoci Cymru - a chwaraeodd yn hwyr yn y dydd dros Brydain Fawr am y tro cyntaf yr hydref yma ar ôl ennill record o 169 o gapiau dros ei gwlad - yn siarad gyda'i chyflogwyr a Hoci Prydain Fawr am gyfnod sabothol a fydd yn ei rhyddhau i fynd i Tokyo y flwyddyn nesaf.

Mae Wilkinson - sydd wedi ymddangos cymaint o weithiau dros Gymru fel mai hi yw'r chwaraewraig ryngwladol gyda'r nifer mwyaf o gapiau erioed mewn unrhyw gamp i dimau yng Nghymru - yn athrawes hanes a Phennaeth Blwyddyn 10 yn Ysgol Ewell Castle, Epsom yn Surrey.

A hithau, yn rhinwedd ei swydd fel athrawes hanes, yn gwybod yn iawn beth sy'n gwneud i ymerodraethau lwyddo, mae'n deall bod paratoi a chynllunio'n hanfodol er mwyn i ferched Prydain Fawr ymestyn eu cyfnod o ragoriaeth i gynnwys ail Gemau Olympaidd.

Wrth lwc, mae Hoci Prydain Fawr a'i hysgol yn deall hyn hefyd fel bod pob ochr yn cydweithio ar gyfnod i'w rhyddhau o'i swydd er mwyn iddi allu hyfforddi a chwarae yn llawn amser yn ystod y misoedd nesaf.  

Leah Wilkinson 1

"Mae wedi bod yn llawer o waith jyglo - fe fyddwn i'n gallu cymryd rhan yn y syrcas!" meddai'r ferch 32 oed sydd wedi bod yn cyfuno addysgu gyda chwarae dros Gymru a'i chlwb Holcombe.

"Mae fy nghydweithwyr i wedi bod yn wych yn camu i'r adwy i mi. Weithiau, mae wedi bod yn anodd iawn cyfuno popeth, ond dydi'r ysgol na Phrydain Fawr ddim wedi cael cam. Rydw i wedi gallu ymrwymo i'r ddau beth."  

Ar ôl torri i mewn i garfan Prydain Fawr ym mis Hydref - gyda llawer yn poeni na fyddai'r diwrnod yma'n dod - bellach mae ei gofynion hyfforddi'n fwy ac felly mae'n rhaid gwneud newidiadau. 

"Fe fydda' i'n cael cyfarfod gyda'r hyfforddwyr a bydd trafodaethau'n cael eu cynnal. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydw i wedi bod yn ceisio cael cydbwysedd rhwng gwaith a hoci, ond mae gan y chwaraewyr gontractau llawn amser nawr, gyda chefnogaeth UK Sport.

"Mae'r ysgol wedi bod yn wych ond gan fod pethau'n newid gêr o ran ymrwymiad, 'fyddwn i ddim yn gallu cyfuno'r ddau am y chwe i saith mis nesaf.          

"Mae'r ysgol wedi dweud ei bod yn iawn i mi gael cymryd cyfnod sabothol. Mae'n golygu bod llai o bwysau arna' i a bod fy swydd i'n saff ar ôl Tokyo. Mae hefyd yn golygu nad ydyn nhw'n cael eu gadael heb athrawes hanes."

Mae manteision i bawb yn Ewell Castle, hefyd, gan gynnwys y plant.

Leah Wilkinson 2

"Mae'n braf cael y plant yn dod ataf i ac eisiau siarad am beth maen nhw wedi'i weld ar y teledu efallai, neu sgwrsio am y Gemau Olympaidd.

"Mae'n golygu eu bod nhw'n gwylio chwaraeon ac yn cael eu cymell gan chwaraeon, sy'n grêt. Mae ceisio ysbrydoli plant yn un o'r breintiau o fod yn athrawes."

Bedair blynedd yn ôl, roedd y syniad y byddai Wilkinson - y mae ei theulu wedi symud i Surrey o Abertawe - angen mynd yn llawn amser er mwyn cystadlu mewn Gemau Olympaidd yn ymddangos fel cryn dipyn o freuddwyd.

Fel miliynau o bobl eraill, gwyliodd ferched Prydain Fawr yn hawlio'r aur Olympaidd yn Rio de Janeiro yn ei hystafell fyw ar y teledu, er ei bod yn chwaraewraig ryngwladol brofiadol gyda Chymru erbyn hynny.

Roedd hi wedi bod am dreialon gyda Phrydain Fawr fwy nag unwaith, ond nid oedd yn gweddu i ddull chwarae hyfforddwr neu roedd chwaraewyr eraill yn cael eu hystyried fel gwell opsiynau.

Efallai bod eraill yn y byd hoci yng Nghymru wedi penderfynu na fyddai byth yn torri drwodd, ond nid felly Wilkinson. Ar ôl 15 mlynedd o ymdrechu, llwyddodd yn y diwedd i ddarbwyllo dewiswyr Prydain Fawr ei bod yn haeddu cael ei chynnwys y tymor yma. 

Wedi buddugoliaeth yn erbyn India, cafwyd llwyddiant hanfodol yn y gêm ail gyfle yn erbyn Chile ac, yn fuan iawn, roedd y ferch ar y tu allan yn rhan o'r brif ffrwd, yn paratoi i amddiffyn eu teitl yn Japan yr haf nesaf.

"Rydw i'n cofio gwylio rownd derfynol y Gemau Olympaidd diwethaf gartref ar y teledu. Roedd yn llawn tensiwn, ond wnes i erioed feddwl y byddai gen i siawns o fod ar yr awyren yn mynd i Tokyo.

"Roedd yn teimlo'n bell iawn. Roeddwn i wedi cael treialon yn y blynyddoedd blaenorol ac wedi bod yn aflwyddiannus. Roeddwn i'n 28 oed ac wrth wylio'r Gemau Olympaidd hynny doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n cymryd rhan yn 32 oed. 

"Ond wnes i ddim anobeithio yn llwyr. Fe wnes i geisio bod mor gyson a heini ag oeddwn i'n gallu bod, ond mae'n bur debyg mai dim ond rhan fechan ohona i oedd yn meddwl y gallai ddigwydd.          

"Weithiau dydych chi ddim yn ffitio yn athroniaeth hyfforddwr penodol neu'r ffordd mae tîm yn chwarae, neu mae chwaraewyr eraill yn eich safle chi. Ond mae pethau wedi dod at ei gilydd. Mae'n anodd dweud ydw i'n well chwaraewraig nag oeddwn i'n 28 oed. Mae rhai pethau'n well - mae gen i fwy o brofiad ac mae hynny o fantais."          

Efallai mai'r hyn a helpodd i ddarbwyllo'r rhai oedd yn amau oedd yr holl gapiau mae hi wedi'u hennill dros Gymru, yn erbyn y gwrthwynebwyr gorau un yn aml.

"Rydw i'n gobeithio bod chwarae i Gymru - yn enwedig am y trydydd tro yng Ngemau'r Gymanwlad - wedi chwarae rhan yn y dewis. Roedd cyfle i mi ddangos beth rydw i'n gallu ei wneud.

"Cadw'n heini oedd yn bwysig a pheidio anobeithio. Rydw i'n lwcus o gael y cyfle yma nawr, er ei fod yn nes at ddiwedd fy ngyrfa i. Mae hi'n fraint cael cynrychioli Prydain Fawr a chael rhoi cynnig arni nawr."