Prosiect newydd yng Nghymru’n annog y cyhoedd i fod yn ddiogel wrth anturio yn yr awyr agored
Bydd lansiad prosiect diogelwch awyr agored
cenedlaethol, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gyda £40,000 o gyllid
Llywodraeth Cymru, yn cael ei gynnal ym Mhlas Menai yfory (dydd
Mercher 5 Gorffennaf).
Bydd y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ar gyfer
Cymru, Plas Menai, yn croesawu mwy na 300 o blant ysgol ac
aelodau'r cyhoedd a fydd yn ymweld â'r ganolfan i gymryd rhan yn
sesiynau Nofio Diogel yr RNLI, a hefyd yn cyfarfod y gwasanaethau
brys a phartneriaid chwaraeon, a fydd yn cynnig cyngor am
ddiogelwch yn yr awyr
agored.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys lansiad Anturio Doeth Cymru,
prosiect newydd cyffrous sydd wedi cael ei gyllido gan Lywodraeth
Cymru drwy Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Croeso
Cymru.
Mae'r prosiect, sy'n ceisio ein cadw ni'n ddiogel
wrth i ni fwynhau gweithgarwch yn yr awyr agored, yn annog gwaith
partneriaeth a syniadau arloesol a fydd yn denu mwy o ymwelwyr i
Gymru.
Yn waddol i Flwyddyn Antur 2016, bydd Anturio Doeth
Cymru yn elwa o flynyddoedd thema Croeso Cymru wrth i ni symud i
Flwyddyn y Môr ar gyfer 2018.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Rydw
i'n hynod falch ein bod ni wedi gallu cefnogi'r prosiect pwysig yma
a fydd yn dechrau trafodaeth rhwng y sefydliadau niferus sydd
eisiau i bobl fwynhau awyr agored gwych Cymru'n ddiogel. Drwy
gydweithio, byddwn yn datblygu ac yn hybu negeseuon clir, a fydd yn
galluogi pobl i anturio'n ddoeth a mwynhau eu hamser yn yr awyr
agored gwych yn ddiogel."
Dan arweiniad y Bartneriaeth Awyr Agored, mae partneriaid
allweddol o bob cwr o Gymru'n cefnogi'r prosiect, gan gynnwys Timau
Achub Mynydd, yr Heddlu, Parciau Cenedlaethol, Cyrff Rheoli
Cenedlaethol, yr RNLI, Awdurdodau Lleol, Chwaraeon Cymru a llawer
mwy.
Dywedodd Tracey Evans, Prif Swyddog Gweithredol y
Bartneriaeth Awyr Agored: "Rydyn ni'n gyffrous am fod yn dechrau
arwain y prosiect newydd yma a gweithio gyda phartneriaid er mwyn i
gymunedau lleol fod yn hyderus a doeth wrth anturio. Amcanion y
prosiect yw creu Cymru iach a mwy cyfartal o gymunedau cydlynus ac
rydyn ni'n edrych ymlaen at gydlynu hyn a cheisio cyrraedd y
nod."
Mae'r prosiect hwn yn un o 38 o brosiectau ledled
Cymru sydd wedi cael eu cyllido gan y £2 miliwn o Gronfa Ymgysylltu
Twristiaeth Rhanbarthol a Chronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth
Croeso Cymru, gyda'r nod o gyflwyno prosiectau arloesol i gefnogi
blynyddoedd thema Croeso Cymru.
Er bod y Digwyddiad Awyr Agored yn cynnwys neges ddifrifol
am ddiogelwch, bydd hefyd yn cynnwys llawer o weithgareddau hwyliog
ac arddangosfeydd gan Fad Achub Biwmares, Timau Chwilio ac Achub a
Chŵn Newfoundland.
Hefyd gall ymwelwyr â'r digwyddiad am ddim siarad am
yrfaoedd a chael gwybodaeth gan y gwasanaethau amrywiol sy'n
bresennol, gan gynnwys Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru a'r
RAF.
Dywedodd Hope Filby o Blas Menai: "Fel y lleoliad
cyntaf yng Nghymru i gynnal y cynllun Nofio Diogel y llynedd, rydyn
ni'n falch o'i gynnal eto'r haf yma a'i glymu gyda digwyddiad sy'n
hybu diogelwch yn ehangach. Mae digwyddiadau ymwybyddiaeth fel y
rhai yma'n bwysig iawn i deuluoedd lleol a thwristiaid fel ei
gilydd ac mae gennym ni raglen lawn i bawb ei mwynhau, am
ddim."
