Pwyllgor y Cynulliad yn Argymell Gwelliannau i Chwaraeon mewn Ysgolion
Mae Chwaraeon Cymru wedi croesawu cyfres o argymhellion i
gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol pobl ifanc yng Nghymru.
Mae rhoi mwy o flaenoriaeth i chwaraeon ac addysg gorfforol mewn
ysgolion yn un o themâu allweddol adroddiad
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd heddiw.
Mae 20 o argymhellion y grŵp trawsbleidiol yn cynnwys y
canlynol:
- Gwneud 120 munud o addysg gorfforol mewn ysgolion yn ofyniad
statudol sylfaenol.
- Rhoi mwy o flaenoriaeth i addysg gorfforol yn y cwricwlwm
newydd ac yn nhrefn arolygu ysgolion Estyn. Dylai'r fframwaith
arolygu gynnwys cadw at y gofyniad 120 munud yr wythnos, ond hefyd
at ansawdd y profiad addysg gorfforol.
- Rhoi mwy o bwyslais ar weithgarwch corfforol yn y rhaglen
Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA).
- Gwneud Ysgolion Cymunedol yn realiti i bawb, gan sicrhau
cysondeb o ran mynediad at gyfleusterau ysgolion ar gyfer cyfleoedd
gweithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol ledled Cymru.
- Sicrhau bod pob ysgol uwchradd yn rhoi gwybod i ddisgyblion am
y dewis a'r ystod o weithgareddau corfforol sydd ar gael iddynt a
gwneud yn siŵr bod eu safbwyntiau'n cael eu hystyried.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o'r
adroddiadGweithgarwch Corfforol Plant a Phobl Ifanc,
gyda Chwaraeon Cymru'n darparu tystiolaeth ysgrifenedig, yn
ogystal â rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad pwyllgor.

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, a
roddodd dystiolaeth yn y pwyllgor:
"Yn gyntaf, mae'n rhaid i mi ddiolch i'r pwyllgor am ei
waith trylwyr a'i fanylder wrth lunio ei adroddiad.
"Mae'r gwaith yma unwaith eto'n tynnu sylw at nifer yr
heriau sy'n ein hwynebu ni i gael pobl yn egnïol a'r agwedd
gydweithredol mae angen i ni ei rhoi ar waith os ydyn ni am gynyddu
lefelau gweithgarwch er lles cenedlaethau'r dyfodol.
"Rydyn ni wedi dweud yn glir yn Chwaraeon Cymru bod gan
ysgolion rôl hanfodol i'w chwarae i sicrhau bod pobl ifanc yn
hyderus, yn fedrus ac yn gallu cymell eu hunain i fwynhau bywyd
sy'n cynnwys chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
"Byddai gofyniad statudol o 120 munud o AG, yn cael ei
darparu gan staff addysgu sydd wedi'u hyfforddi'n dda a'i defnyddio
yn fframwaith Estyn, yn codi'r safon o ran y cyfleoedd a'r
profiadau sy'n cael eu cynnig i bobl ifanc.
"Mae cyfeiriad y pwyllgor at brofiad safonol o
weithgarwch corfforol ochr yn ochr â'r gofyniad statudol yma o ran
AG yn hynod o arwyddocaol."
Mae uchafbwyntiau eraill o'r adroddiad yn cynnwys yr angen i
gyrff cyhoeddus weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol, a
chydnabod hefyd bwysigrwydd rôl rhieni wrth ddylanwadu ar
weithgarwch corfforol eu plant.
Mae galwadau hefyd am fframwaith mesur cenedlaethol y cytunir
arno ar gyfer lefelau gweithgarwch corfforol a ffitrwydd, mwy o
fuddsoddiad mewn cyfleusterau a hyrwyddo modelau rôl benywaidd.
Ychwanegodd Sarah Powell:
"Mae'r sector chwaraeon yng Nghymru ar flaen y gad gyda
nifer o'r meysydd gwaith yma, fel datblygu elfen llythrennedd
corfforol y cwricwlwm newydd a rhoi llais i bobl ifanc drwy'r
Arolwg Chwaraeon Ysgol a thwf y rhaglen Llysgenhadon Ifanc. Mae'r
adroddiad yn rhoi pwyslais gwirioneddol ar y meysydd gwaith yma ac
rydyn ni'n awyddus i ystyried sut gallwn ni eu datblygu ymhellach
mewn partneriaeth, a'u hymgorffori go iawn mewn bywyd yn yr ysgol a
thu allan er lles pobl ifanc.
"Mae buddsoddiad newydd fel y Gronfa Iach ac Egnïol a'r
buddsoddiad ychwanegol o £5m mewn cyfleusterau chwaraeon a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar yn gamau mawr
ymlaen.
"Roeddwn i'n falch o weld cyfeiriad y pwyllgor at
effaith gweithgarwch corfforol ar iechyd meddwl a lles yn arbennig,
ychydig wythnosau ar ôl i ni gyhoeddi ein hymchwil ein hunain i'r
effaith sylweddol ar iechyd y genedl."
Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn.