Seren nofio i Gymru yn y dyfodol? Dyma gyfle i gyfarfod Matt Richards

Fe roddodd Matt Richards syniad i'w rieni o beth oedd ar y gorwel pan oedd ond yn bum mlwydd oed ar wyliau teulu yn Tenerife.

Am nad oedd yn hapus am orfod gwisgo bandiau braich yn y pwll tra oedd plant eraill, hŷn, ddim yn gorfod gwneud hynny, brasgamodd at ei fam a'i dad a dweud wrthyn nhw ei fod wedi cael digon a thaflu'r bandiau braich ar y gadair.   

Ac wedyn, trodd ar ei sawdl, rhedeg a neidio i mewn i'r pen dwfn, er mawr ddychryn i'w rieni Simon ac Amanda.

Meddai: "Fe gafodd fy rhieni i drawiad bob un bron! Fe redodd dad a neidio i mewn ar fy ôl i ond roeddwn i'n iawn ac wrth fy modd, a dyna pryd wnes i ddarganfod 'mod i'n hoff iawn o ddŵr." 

11 mlynedd yn ddiweddarach ac mae'r bachgen bach hwnnw bellach yn un o chwaraewyr mwyaf addawol Cymru - daeth yn bencampwr iau Ewrop yn y dull rhydd 100m yn Kazan, Rwsia, gydag amser o 48.88 eiliad yn ei godi i'r wythfed safle yn safleoedd Prydain. 

Matt Richards

Roedd y record hon hefyd yn un o dair record grŵp oedran Brydeinig - ochr yn ochr â'r dull rhydd 200m a'r pili pala 50m - a osodwyd gan y gŵr ifanc 16 oed ym mis Gorffennaf.

Gan ddisgrifio'r foment yr edrychodd ar y bwrdd sgorio fel "gwych", roedd ganddo lawer o rasio i ddod eto a sicrhaodd yr arian yn y dull rhydd 200m ac efydd yn y dull rhydd 4x100m.

Dywedodd: "Roedd rhaid i mi roi'r holl deimladau ac emosiynau i'r naill ochr ar y pryd nes 'mod i wedi gorffen popeth ac wedyn roedd cyfle i mi edrych yn ôl a meddwl, waw!, rydw i wedi gwneud hyn'na!"   

Hefyd mae ei lwyddiant wedi golygu bod Richards wedi ailbennu ei nodau ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Tokyo yr haf nesaf, lle mae'n bwriadu bod yn gystadleuol.

Gyda hyder yr ifanc, ychwanega: "Y nod o hyd yw mynd i'r Gemau Olympaidd, ond nid dim ond am y profiad erbyn hyn.            

"Nawr mae'n fater o geisio gwneud yn siŵr 'mod i'n mynd a 'mod i ddigon da i gystadlu yn erbyn y goreuon a bod yn y rowndiau terfynol a gweld beth alla' i ei wneud.

"Tasg anodd wrth gwrs, ond gyda chynllun da yn ei le, a gwaith caled, rydw i'n meddwl bod unrhyw beth yn bosib."

Wedi'i eni yn Lloegr, ond gyda gwreiddiau cadarn yng Nghymru, mae Richards wedi mwynhau ychydig wythnosau o seibiant yr haf yma ond bydd yn dychwelyd yn fuan at hyfforddi'n galed ym mis Medi.

Er bod y gefnogaeth frwd gan ei deulu'n dod o Gymru, ar hyn o bryd, mae ei holl ymroddiad a'r oriau hir yn y pwll yn digwydd dros y ffin.      

Mae Richards yn hyfforddi o dan arweiniad yr hyfforddwyr Marc Spackman a Tom Elgar yn yr Ysgol Frenhinol yn Wolverhampton ers symud o'i glwb lleol yn Droitwich pan oedd yn 13 oed.

Mae'n ymddangos bod hyn yn siwtio Richard yn berffaith. Fe enillodd gyfanswm o 12 medal aur yn y pencampwriaethau grŵp oedran cenedlaethol yn ystod y ddau dymor ar ôl cyrraedd Wolverhampton cyn cael llwyddiant ar lefel iau yn Ewrop.

Mae'n barod iawn i gydnabod faint mae'r ddeuawd hyfforddi wedi'i wneud iddo, gan ddweud: "O! popeth! 'Fyddwn i ddim ble rydw i heddiw hebddyn nhw, does dim dwywaith am hynny.

"Y gwahaniaeth mawr a'r peth allweddol maen nhw wedi'i newid i mi ydi fy meddylfryd i a sut rydw i'n edrych ar nofio. 

"Maen nhw wedi newid fy meddylfryd i o fod â ffocws ar berfformio a bob amser eisiau gwneud yn siŵr 'mod i'n cofnodi amseroedd cyflym i edrych ar sut rydw i'n cael yr amseroedd cyflym hynny ac wedyn meddylfryd mwy positif yn gyffredinol ac edrych ar ochr orau pethau.   

"Felly, os nad yw ras wedi mynd fel y disgwyl - edrych arni a dweud, 'reit, y tri pheth yma ydi'r rheswm pam nad ydi pethau wedi mynd fel y disgwyl a dyna sut rydw i'n mynd i wneud yn siŵr nad yw'n digwydd eto ac y bydd pethau'n well y tro nesaf'.

"Fedra i ddim diolch digon iddyn nhw."

Allan o'r pwll, mae Richards yn gefnogwr rygbi "enfawr".

"Rydw i wrth fy modd yn gwylio," meddai. "Mae fy nheulu i gyd yn gefnogwyr rygbi. Felly fe fyddwn ni'n gwylio Cwpan y Byd.

"Mae'n anodd gweld beth fydd yn digwydd. Rydw i eisiau dweud y bydd Cymru'n ennill ond mae'n anodd diystyru'r Crysau Duon."

Mae ei dad yn dod o Gaerdydd ac mae Richards wedi treulio llawer o amser yno gyda'i deulu. Iddo ef, doedd dim amheuaeth erioed ble roedd ei galon.

Meddai: "Rydw i wedi tyfu i fyny gyda fy nheulu i i gyd yn dweud 'mod i'n Gymro a nawr 'mod i'n hŷn, Cymro ydw i yn ddi-os.             

"Rydw i'n gweld fy hun fel Cymro y tu allan i chwaraeon. Rydw i'n Gymro balch er gwaetha'r ffaith 'mod i wedi cael fy ngeni yn Lloegr."