Arolwg ar Chwaraeon Ysgol
Canlyniadau Arolwg ar Chwaraeon Ysgol
2018
Yn ystod gwanwyn a haf 2018, gyda chefnogaeth
Awdurdodau Lleol ac ysgolion ledled Cymru, manteisiodd mwy na
120,000 o blant a phobl ifanc ar y cyfle i leisio eu barn am
chwaraeon a'u lles. Cymerodd mwy na 1000 o ysgolion ran yn yr
Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, gan helpu i wneud hwn yr arolwg mwyaf
o'i fath, a mwyaf adlewyrchol, yng Nghymru, ac yn y Byd o bosib.

Mae'r canlyniadau'n dangos bod y cynnydd a welwyd rhwng
2011 a 2015 yn yr arolygon blaenorol wedi'i gynnal, gyda 48% o bobl
ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith neu fwy yr wythnos yn
ychwanegol at wersi AG ar yr amserlen.
Hefyd mae ffigurau 2018 yn awgrymu cau ar y bwlch
cyfranogiad ymhlith y rhai sy'n cael eu hystyried yn draddodiadol
fel grwpiau anos eu cyrraedd.
- Mae 45% o blant ag anabledd neu nam yn cymryd rhan
3 gwaith neu fwy yr wythnos yn awr mewn chwaraeon (yn ychwanegol at
wersi AG ar yr amserlen), i fyny o 40% yn 2015. Mae'r ffigur yn
dangos cynnydd mwy fyth wrth ychwanegu ymatebion ysgolion Anghenion
Addysgol Arbennig, gan fynd â'r ffigur i fyny i
47%.
- Mae'r grŵp lleiafrif ethnig gyda'r cyfranogiad isaf,
Asiaidd Prydeinig, wedi cynyddu nifer y cyfranogwyr rheolaidd o 36%
i 40%, gan ddod â nhw'n nes at y cyfartaledd
cenedlaethol.
- Yn y cyfamser mae'n ymddangos bod bwlch mwy
ystyfnig rhwng y mwyaf a'r lleiaf difreintiedig, gyda 42% o blant
o'r aelwydydd mwyaf difreintiedig yn cymryd rhan 3 gwaith neu fwy
yr wythnos (yn ychwanegol at wersi AG ar yr amserlen), i lawr o 43%
yn 2015.
Am y tro cyntaf, mae pobl ifanc wedi gallu nodi eu rhyw
fel gwryw neu fenyw neu arall, gan ddarparu llawer o wybodaeth
newydd.
Yn 2018, mae 46% o ferched yn cymryd rhan mewn
chwaraeon 3 gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â 50% o fechgyn. Yn
2015, dywedodd 44% o ferched a 52% o fechgyn eu bod yn cymryd rhan
yn rheolaidd. Er nad oes modd llunio cymariaethau uniongyrchol
oherwydd deinameg newydd y cwestiwn, mae'r ffigurau'n awgrymu cau
posib ar y bwlch rhwng y
rhywiau.
Mae 33% o'r rhai sy'n ymateb fel 'arall' wedi dweud
eu bod yn cymryd rhan 3 gwaith neu fwy yr
wythnos.
Gallwch weld y tablau data llawn ar ein tudalen Ystadegau ac mae'r
datganiad i'r wasg llawn ar gael
yma.
Yn Ychwanegol:
Cynllun Gweithredu
Ysgol Arolwg 2018 ar Chwaraeon Ysgol.
Podled
Trafodaeth ar
yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol. Gwrando am 15 munud.
Sarah Powell ac Owen Hathway yn trafod y prif bwyntiau yng
nghanlyniadau'r Arolwg Chwaraeon Ysgol
Graffeg Gwybodaeth
Rydym wedi llunio graffeg gwybodaeth amrywiol i
gyfathrebu canfyddiadau'r arolwg.
Hefyd rydym wedi datblygu sawl graffeg gwybodaeth yn
seiliedig ar y canlynol: <will be via new page
links>
Mae'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn defnyddio llais y
disgybl i ddarparu lefel amhrisiadwy o wybodaeth y gellir ei
defnyddio i gael dylanwad positif ar iechyd a lles pob
plentyn.
Mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio canlyniadau'r
Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ar gael yma.
Cyflwyniad
Cyflwyniad Powerpoint gyda throslais sain yn esbonio
canfyddiadau allweddol yr arolwg.
Cyflwyniad
Yr Arolwg Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol
AB
Mewn cydweithrediad â Cholegau Cymru, cwblhawyd yr Arolwg
Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol AB mewn colegau ledled Cymru yn
ystod Gwanwyn a Haf 2018 hefyd.
Wedi'i gwblhau gan 3858 o 13 o golegau, mae'r arolwg yn dilyn yr
Arolwg cyntaf ar Chwaraeon AB yn 2015.
- Mae'r tablau data llawn ar gyfer yr arolwg ar gael yma
- Gellir gweld y Penawdau Cenedlaethol o'r arolwg
yma
- Mae manylion am bwy o'r demograffig yma sy'n cymryd rhan mewn
chwaraeon i'w gweld
yma