Defnyddio'r canlyniadau
Eleni mae'r ysgolion a'r Awdurdodau Lleol sy'n cael
adroddiadau'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol wedi cael y canlyniadau o
dan benawdau'r Elfennau Ymgysylltu. Mae'r Elfennau Ymgysylltu'n
fodel sy'n cyflwyno'r sylfeini ar gyfer annog person i gymryd rhan
mewn gweithgaredd.

Yn yr adroddiadau, gall y dystiolaeth a ddarperir o dan bob un
o'r meysydd hyn fod yn sail i gamau gweithredu y gall ysgol neu
Awdurdod Lleol eu rhoi ar waith i gryfhau addasrwydd eu darpariaeth
i bobl ifanc yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys faint mae disgyblion
yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon ar hyn o bryd a'r mathau o
weithgareddau maent wedi dangos diddordeb mewn cymryd mwy o ran
ynddynt.
Y 5 Elfen
Ymgysylltu

Cymhelliant - 'Rydw i eisiau cymryd
rhan'
Mae cymhelliant yn ymwneud â dyhead neu egni mewnol
disgybl i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.
Mae'r canlyniadau'n dangos lefel y dyhead gan
ddisgyblion i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon. Hefyd maent yn
dangos ym mha ardaloedd mae galw cudd yn bodoli, fel bod darparwyr
yn gallu gweithredu ar sail y cymhelliant hwnnw i greu cyfleoedd
sy'n bodloni'r
galw.

Hyder - 'Rydw i'n gallu cymryd
rhan'
Mae cred pobl ifanc yn eu gallu eu hunain, a'u hyder i
gymryd rhan mewn cyfleoedd chwaraeon newydd, hefyd yn debygol o
effeithio ar a ydynt yn egnïol ai peidio.
Datgelodd dadansoddiad Arolwg ar Chwaraeon Ysgol
2015 bod y disgyblion hynny sy'n hyderus iawn i roi cynnig ar
weithgareddau newydd heb boeni ddwywaith yn fwy tebygol o gymryd
rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr
wythnos.
Bydd defnyddio'r canlyniadau i adlewyrchu ar lefelau hyder
ymhlith grwpiau penodol yn helpu i dargedu adnoddau, amser ac
ymdrech i gyflwyno cyfleoedd chwaraeon newydd ar yr amser
priodol.

Ymwybyddiaeth - 'Rydw i'n gwybod ble i gymryd
rhan'
Mae gwybod pryd, ble a sut i fanteisio ar gyfleoedd
perthnasol yn hanfodol os ydym eisiau i fwy o bobl ifanc fod yn
egnïol a chael mwynhad am oes o chwaraeon yng
Nghymru.
Gall ysgolion a darparwyr gymryd sawl cam i gynyddu
ymwybyddiaeth disgyblion o gyfleoedd lleol ac yn yr ysgol. Mae'r
raffeg gwybodaeth isod yn dangos rhai o'r mesurau posib
hyn.

Cyfle ac Adnoddau - 'Mae'n hawdd i mi gymryd rhan'
Er mwyn i fwy o bobl ifanc allu cymryd rhan mewn
chwaraeon yn fwy rheolaidd, mae'n bwysig bod cyfleoedd ar gael a
mynediad hwylus. Mae'r canlyniadau'n edrych ar beth sydd ar gael o
ran darpariaeth gwricwlaidd ac allgyrsiol mewn ysgolion ac
ardaloedd penodol.
Gall darparu amrywiaeth o weithgareddau helpu
darparwyr i ymwneud â phob disgybl a rhoi cyfleoedd iddynt
ddatblygu amrywiaeth o wahanol sgiliau a chymwyseddau. Gall
cymharu'r gweithgareddau sy'n cael eu darparu eisoes ochr yn ochr
â'r ffigurau galw cudd a nodir yn yr adran 'cymhelliant' helpu i
adnabod meysydd posib ar gyfer gwell ymgysylltu mewn
chwaraeon.

Y Profiad - 'Rydw i wrth fy modd yn cymryd
rhan'
Yn 2015, dangosodd yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol bod
disgyblion bron ddwywaith yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn
chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos os oeddent yn mwynhau
chwaraeon ysgol 'yn fawr'. Gall mwynhad a phrofiadau da mewn
chwaraeon yn yr ysgol arwain at gymryd rhan y tu allan i'r ysgol a
helpu i greu arferiad o ffordd o fyw iach ac
egnïol.
Gall defnyddio'r canlyniadau i ddeall a yw'r ddarpariaeth
bresennol o chwaraeon yn bleserus helpu darparwyr i weithredu
newidiadau sy'n gwella cyfranogiad.
Angen ysbrydoliaeth i symud pethau ymlaen? Cymerwch
gipolwg ar y cyngor doeth gan ysgolion ac awdurdodau lleol a
ddefnyddiodd y canlyniadau yn y gorffennol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg ar chwaraeon
ysgol, cysylltwch â thîm yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn Chwaraeon
Cymru schoolsportsurvey@sportwales.org.uk
Yn ôl i ganlyniadau
2018