Arolwg ar Oedolion Egnïol
Mae Arolwg diweddaraf Chwaraeon Cymru ar Oedolion
Egnïol yn dangos potensial i gael mwy o oedolion i wirioni ar
chwaraeon ac yn gwirfoddoli ac mae'r ffigurau ar gyfer y rhai sydd
eisoes wedi gwirioni yn groes i'r duedd ledled y DU
Mae nifer yr oedolion sydd wedi gwirioni ar chwaraeon - yn
cymryd rhan deirgwaith yr wythnos neu fwy - wedi cynyddu (41%) yng
Nghymru yn ôl yr Arolwg ar Oedolion Egnïol swyddogol a ryddhawyd
heddiw gan Chwaraeon Cymru.
Ar ôl siarad gyda mwy nag 8,000 o bobl 15 oed a hŷn yng Nghymru,
mae'r canlyniadau diweddaraf yn dangos cynnydd ers 2012 (39%), gan
adeiladu ar y cynnydd yn y cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru
sydd i'w weld ers 2008 (29%) a chynnal y cyfranogiad ers Gemau
Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Beth yw'r Arolwg ar Oedolion Egnïol?
Mae'r Arolwg ar Oedolion Egnïol yn arolwg ar
raddfa fawr ar y boblogaeth o oedolion yng Nghymru. Roedd oedolion
(a ddiffiniwyd fel pobl 15 oed a hŷn) a oedd yn byw mewn cartrefi
preifat yng Nghymru'n gymwys i gymryd rhan yn yr arolwg. Mae'r
arolwg yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb, gyda chyfwelydd yn ymweld
â'r person yn eu cartref. Mae'r cartrefi'n cael eu dewis ar hap a
phan mae'n ymweld, mae'r cyfwelydd yn dewis rhywun o'r cartref ar
hap i gymryd rhan yn yr arolwg.
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi comisiynu arolygon poblogaeth ar
raddfa fawr ar gyfranogiad oedolion mewn chwaraeon yng Nghymru ers
1987. Mae hyn yn darparu sail ar gyfer monitro a chofnodi'n
strategol y tueddiadau mewn chwaraeon yng Nghymru, yn ogystal â
ffurfio sylfaen ar gyfer dylanwadu ar bolisïau ac
arferion.
Gallwch weld y tablau data llawn ar ein tudalennau Ystadegau
a chopi hefyd o'r
papur Cyflwr y Genedl.
Graffeg Gwybodaeth
Rydym wedi creu graffeg gwybodaeth amrywiol i roi gwybod am
ganfyddiadau'r arolwg:
Ystadegau
Rhyddheir tablau data ar gyfer yr Arolwg ar Oedolion Egnïol yn
gyfnodol, ac maent i'w gweld isod. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau'r Arolwg ar
Oedolion Egnïol.
*Canfuwyd camgymeriadau yn Nhabl 11 a Thabl 12 sydd wedi cael eu
cywiro nawr. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a
achoswyd.